Trefniadau dychwelyd i'r ysgol ym mis Ionawr

31 Rhagfyr 2020
Mae trefniadau diogel a threfnus wedi'u cytuno gan y cyngor fel bod dysgwyr yn gallu dychwelyd i'r ysgol yn y Flwyddyn Newydd.
Yn dilyn trafodaethau helaeth, penderfynwyd y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol fel y cynlluniwyd ddydd Mercher, 6 Ionawr, gyda mân newidiadau ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 ac uwch.
Dywedodd y Cyngh. Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Mae hon wedi bod yn flwyddyn hynod o heriol ac anodd lle bu'n rhaid i bawb addasu mewn ymateb i'r pandemig.
"Mae tymor newydd y Gwanwyn bron ar ein gwarthaf ac ar ôl ystyried yn ofalus gallwn nawr gadarnhau trefniadau'r cyngor ar gyfer dychwelyd i leoliadau ysgol ar ôl gwyliau'r Nadolig.
"Bydd holl staff yr ysgol yn dychwelyd i'r ysgol ar gyfer HMS a diwrnodau cynllunio a pharatoi ddydd Llun 4 a dydd Mawrth 5 Ionawr.
"Bydd y diwrnodau hyn ar gyfer staff yn unig i roi'r cyfle i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar adolygu eu hasesiadau risg, eu prosesau a'u systemau i wneud yn siwr y gallant groesawu dysgwyr yn ôl yn ddiogel.
"Ar Ddydd Mercher 6 Ionawr, bydd pob disgybl cynradd a dysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn dychwelyd i'r ysgol fel y cynlluniwyd.
"Ni fydd disgyblion ym mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13 yn dychwelyd fel y cynlluniwyd ond yn hytrach byddant yn dechrau dysgu cyfunol o 6 Ionawr. Bydd y dysgwyr hyn yn dychwelyd i'r ysgol ar 11 Ionawr oni bai ein bod yn cael ein cynghori'n wahanol rhwng nawr a'r pryd hynny.
"Cytunwyd i ohirio dyddiad dychwelyd y grŵp hwn o ddisgyblion yng ngoleuni'r canllawiau diweddaraf a'r cyfyngiadau haen 4 yng Nghymru.
"Mae'n rhaid i mi wneud yn glir ein bod yn dal i fod yng nghrafangau'r pandemig hwn. Dylai rhieni barhau i fod ar eu gwyliadwriaeth am y coronafeirws ac i gadw plant sâl i ffwrdd o leoliadau'r ysgol a'r blynyddoedd cynnar, hyd yn oed os yw'r symptomau'n ysgafn iawn.
"Rwy'n annog pob teulu i ddilyn y cyngor diweddaraf fel y gall ein hysgolion cael dechreuad da ddydd Mercher 6 Ionawr 2021 ac i fod mor ddiogel â phosibl.
"Hoffem ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb ac edrychwn ymlaen at weld plant a phobl ifanc nôl yn ein hysgolion ym mis Ionawr."