Diweddariad Ysgolion - Dydd Gwener 8 Ionawr

8 Ionawr 2021
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud ei fod yn debygol y bydd ysgolion ar draws y sir yn parhau i ddysgu ar-lein tan o leiaf hanner tymor mis Chwefror oni bai bod gostyngiad sylweddol yn yr achosion o'r coronafeirws.
Y bore yma (dydd Gwener, 8 Ionawr), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd cyfyngiadau rhybudd lefel pedwar yn parhau ac oni bai bod gostyngiad sylweddol mewn achosion cyn 29 Ionawr - dyddiad yr adolygiad nesaf - bydd ysgolion yn parhau i ddarparu dysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror.
Bydd ysgolion yn aros ar agor ond dim ond ar gyfer plant gweithwyr allweddol a dysgwyr sy'n agored i niwed.
Dywedodd y Cyngh. Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg: "Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru sy'n rhoi mwy o eglurder i'n dysgwyr, eu teuluoedd, ac i staff ein hysgolion. Byddwn yn gweithio gydag arweinwyr ein hysgolion i sicrhau bod mesurau priodol ar waith i gefnogi ein holl ddysgwyr dros yr wythnosau nesaf.
"Rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd i addysgu a dysgu wyneb yn wyneb cyn gynted ag y medrwn ond dim ond pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir, oni bai bod gostyngiad sylweddol mewn achosion o'r coronafeirws cyn 29 Ionawr, y bydd dysgu ar-lein yn parhau tan hanner tymor mis Chwefror.
"Mae'r sefyllfa'n parhau'n ddifrifol iawn ac mae'n bwysig ein bod i gyd yn dilyn y cyngor i aros gartref a diogelu ein gwasanaeth iechyd.
"Bydd ysgolion yn aros ar agor ond dim ond ar gyfer plant gweithwyr hanfodol yn ogystal â dysgwyr sy'n agored i niwed lle bo hynny'n gwbl angenrheidiol. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod plant yn aros gartref lle bynnag y bo modd, gan mai dyma'r lle mwyaf diogel i bawb.
"Ein blaenoriaeth yw diogelwch a lles ein dysgwyr a staff yr ysgolion. Hyd nes y bydd gostyngiad sylweddol mewn achosion o'r coronafeirws a chyngor meddygol a gwyddonol yn caniatáu i ddysgwyr ddychwelyd i'r ysgol bydd dysgu ar-lein yn parhau ym Mhowys hyd nes y clywir yn wahanol.
"Hoffwn ddiolch i ysgolion am eu hymdrechion diflino i gefnogi disgyblion yn ystod y cyfnod anodd hwn a hoffwn ddiolch hefyd i rieni am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod digynsail hwn o darfu ar ein hysgolion."