Gallwch weld eich bil Trethi Busnes, sefydlu neu ddiwygio debyg uniongyrchol, neu wneud taliad ar-lein

11 Ionawr 2021
Ydych chi'n hoffi rheoli eich materion ariannol ar-lein? Os felly, ac os ydych yn talu Business Rates, gallwch fynd ati i sefydlu debyd uniongyrchol neu ei ddiwygio trwy wefan Cyngor Sir Powys.
Bydd angen i chi gofrestru neu fewngofnodi i'ch cyfrif Powys i roi'r newidiadau ar waith, yn: https://cy.powys.gov.uk/logiomewn
Yna bydd gofyn i chi ychwanegu manylion at broffil eich cyfrif, er enghraifft, eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeirnod Trethi Busnes.
Yna gallwch glicio ar 'My Account' i weld crynodeb, i weld eich cyfrif llawn, neu i sefydlu neu ddiwygio debyd uniongyrchol.
Gellir gwneud taliadau ar-lein hefyd, gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, yn: https://onlinepayments.powys.gov.uk/pay/
Cyn bo hir, bydd busnesau hefyd yn gallu hysbysu'r cyngor trwy'r wefan o newid yn eu hamgylchiadau.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, y Cyng Aled Davies: "Mae llawer o'n busnesau yn hoffi'r rhwyddineb o reoli eu materion ariannol ar-lein, a rydym yn cynnig cyfle iddynt wneud yr un fath wrth dalu eu Trethi Busnes.
"Mae cyfrif Powys eisoes yn boblogaidd, ond yn y dyfodol, gobeithiwn y bydd llawer mwy o'n trethdalwyr yn ei ddefnyddio oherwydd rydym yn credu y bydd yn eu helpu i gadw llygad ar eu biliau, a phan gyflwynir diweddariadau pellach, bydd hefyd yn caniatáu iddyn nhw ein hysbysu'n fuan am newid yn yr amgylchiadau."
- Mae rhagor o wybodaeth am dalu eich Treth y Cyngor ar gael yn: https://cy.powys.gov.uk/talu-trethi-busnes