Penodi contractwr i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd

12 Ionawr 2021
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod cwmni adeiladu o Gymru wedi cael ei benodi i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon yng ngogledd Powys.
Mae Cyngor Sir Powys wedi dyfarnu'r contract i Wynne Construction i adeiladu ysgol gynradd newydd ar gyfer 150 o ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng.
Bydd yn ofynnol i'r cwmni o Sir Ddinbych ddarparu cyfleoedd niferus i gontractwyr lleol yn ogystal â sicrhau buddion cymunedol ychwanegol yn ystod gwaith adeiladu'r cynllun.
Bydd digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr yn cael eu trefnu'n fuan fel rhan o'r cynllun fel bod contractwyr lleol a chyflenwyr yn cael y cyfle i gwrdd â Wynne Construction.
Bydd gwaith ar y datblygiad, sy'n cael ei ariannu gan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ac sy'n cael ei ariannu 50% gan y cyngor, yn dechrau fis nesaf (Chwefror).
Yn gynharach heddiw (dydd Mawrth, 12 Ionawr), cytunodd y Cabinet i gynyddu cyfraniad y cyngor ar gyfer y prosiect o £1.35m er mwyn cwrdd â chostau ychwanegol y prosiect.
Mae'r cynllun arloesol ar gyfer yr ysgol newydd yn cyfuno'r hen a'r newydd. Bydd yn darparu cyfleusterau gwych i ddisgyblion Ysgol Gymraeg y Trallwng a chymuned y Trallwng ynghyd â chynnal presenoldeb Ysgol eiconig Maesydre.
Bydd yr hen adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adnewyddu i greu cyfleusterau blynyddoedd cynnar a chymunedol a bydd estyniad newydd yn cael ei adeiladu i gynnwys neuadd ysgol ac ystafelloedd dosbarth newydd. Yr adeilad hwn bydd y prosiect hybrid Passivhaus cyntaf yn y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Rwy'n falch bod Wynne Construction wedi cael ei benodi fel y prif gontractwyr i adeiladu'r ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Y Trallwng.
"Mae'n wych bod y prosiect hwn wedi symud cam yn agosaf ar ôl profi rhai anawsterau a oedd y tu hwn i reolaeth y cyngor.
"Bydd ein cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gymraeg y Trallwng yn darparu cyfleusterau yr 21ain Ganrif ar gyfer ein dysgwyr tra'n cadw a moderneiddio adeilad rhestredig Gradd II i'w defnyddio gan gymuned y Trallwng.
"Mae gennym strategaeth i drawsnewid addysg ym Mhowys ac mae adeilad newydd Ysgol Gymraeg y Trallwng yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni'r strategaeth bwysig hon. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn darparu amgylchedd dysgu a fydd yn caniatáu i ddysgwyr a staff addysgu i ffynnu a chyflawni eu potensial drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Wynne Construction am gyfnod y prosiect hwn."
Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wynne Construction: "Ar ôl meithrin cyfoeth o brofiad mewn ysgolion a cholegau ledled Gogledd Cymru, rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill y contract pwysig hwn gyda Chyngor Sir Powys ac i fod yn gweithio gyda nhw am y tro cyntaf.
"Rydym yn hynod o falch o fod yn gweithio yng nghanolbarth Cymru ac i fod wedi llwyddo i ennill contract drwy fframwaith SEWSCAP3. Edrychwn ymlaen at gydweithio â Phowys a'u rhanddeiliaid allweddol, yr ysgol a'r gymuned leol i gyflawni'r amgylchedd dysgu ysbrydoledig hwn.
"Ein nod yw sicrhau manteision economaidd-gymdeithasol a chymunedol parhaol i'r prosiect, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a datblygu lleol."