Cyngor yn dweud nad yw'n ddiogel i ail-agor canolfannau dydd eto

Ionawr 13, 2021
Mae'r cyngor wedi penderfynu nad yw hi o hyd yn bosibl i ail-agor canolfannau dydd o dan gyfyngiadau Covid-19 presennol.
Mae canolfannau dydd i bobl hŷn ac i bobl ag anableddau dysgu wedi bod ar gau ers mis Mawrth oherwydd y pandemig. Bellach, mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu ymestyn y trefniadau i gadw'r cyfleusterau hyn ar gau tan fis Awst, 2021 (yn amodol ar gymeradwyaeth yr Aelod Portffolio ar 14 Ionawr).
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd staff gofal cymdeithasol yn trafod y ffordd orau o gefnogi eu hanghenion gyda dinasyddion.
Mae'r rhan fwyaf o unigolion sy'n mynychu gwasanaethau dydd yn gwneud hynny er mwyn cwrdd ag eraill ac i gymdeithasu â hwy tra'n derbyn gofal yn ystod y dydd. Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl darparu gwasanaeth o'r fath oherwydd gofynion y canllawiau i liniaru effaith y pandemig.
Yn ystod y pandemig, mae pobl a oedd yn mynychu'r canolfannau wedi cael cymorth mewn gwahanol ffyrdd (e.e. byw gyda chymorth gofalwyr, naill ai'n llawn amser neu'n rhan amser, neu gymorth gan y teulu) neu wedi dewis peidio â chael cymorth arall.
Mae'r staff sydd fel arfer yn gweithio yn y maes gwasanaethau dydd, wedi cael eu hadleoli i weithio mewn meysydd eraill sy'n hanfodol i fusnes megis gofal yn y cartref, tra bod eraill wedi dod yn rhan o dîm Olrhain Cysylltiadau'r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ofal Cymdeithasol i Oedolion: "Rwy'n llwyr werthfawrogi y bydd hyn yn newyddion siomedig i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd ond mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch ar yr adeg dyngedfennol hon.'
Ychwanegodd Michael Gray, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y cyngor: "Mae cadw canolfannau dydd a gwasanaethau dydd ar gau am chwe mis arall yn ymateb angenrheidiol i'r cyfraddau heintio presennol ledled Powys. Mae hefyd yn rhoi mwy o amser i'r gwasanaeth weithio ochr yn ochr ag unigolion a phartneriaid i gynllunio a sefydlu cyfleoedd dydd eraill.