Y Cyngor yn cwblhau prosiect adeiladu ysgol arall

20 Ionawr 2021
Adeilad ysgol newydd yw'r unfed prosiect ar ddeg o raglen fuddsoddi fawr Cyngor Sir Powys i gael ei gwblhau.
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng yw'r prosiect diweddaraf y mae'r cyngor wedi'i gwblhau o dan ei Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sydd wedi gweld un ysgol uwchradd ac wyth ysgol gynradd yn cael eu hadeiladu a gwaith adnewyddu yn cael ei wneud mewn un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd.
Agorodd yr ysgol ei drws i rai disgyblion yn gynharach y mis hwn ar ôl gwyliau'r Nadolig.
Mae bron i £69m wedi'i fuddsoddi gan y cyngor a Llywodraeth Cymru fel rhan o gam fuddsoddi gyntaf y rhaglen.
Yr ysgol newydd, a fydd yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, yw'r ysgol gynradd Passivhaus gyntaf i gael ei hadeiladu gan y cyngor.
Cwblhawyd y gwaith adeiladu gan Pave Aways o Knockin, sydd wedi cwblhau sawl prosiect ar gyfer y cyngor o'r blaen gan gynnwys adeiladu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Carno a gwneud gwaith adnewyddu mawr yn Ysgol Glantwymyn.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Rwyf wrth fy modd bod Ysgol Gynradd newydd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng wedi agor ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf.
"Rwy'n siŵr bod cymuned yr ysgol yr un mor falch ei fod wedi agor o'r diwedd o ystyried yr anawsterau a'r heriau yn gysylltiedig â'r prosiect adeiladu hwn.
"Mae hwn yn gyfleuster gwych a fydd yn darparu amgylchedd a fydd yn caniatáu i ddysgwyr a staff addysgu gyrraedd eu potensial.
"Mae darparu amgylcheddau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn un o amcanion ein Gweledigaeth 2025.
"Mae'r cyngor a Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol i ddarparu cyfleusterau ar gyfer yr 21ain Ganrif a fydd yn helpu ein dysgwyr a'n staff addysgu i ffynnu.
"Ni fydd ein cynlluniau buddsoddi yn dod i ben yma. Rydym yn symud ymlaen gyda'n cynlluniau ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen, Ysgol Gymraeg y Trallwng, Ysgol Cedewain a Brynllywarch a datblygiadau cyffrous eraill."