Cyngor yn croesawu canfyddiadau arolwg Estyn

29 Ionawr 2021
Yn ôl canfyddiadau arolwg gan arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, mae penaethiaid ym Mhowys yn teimlo'n bositif ynglŷn â pha mor ystwyth ac ymatebol y bu'r cyngor sir a swyddogion addysg drwy gydol y pandemig,
Cynhaliodd Estyn arolwg am sut y bu Cyngor Sir Powys yn gweithio gyda'i ysgolion a'i unedau cyfeirio disgyblion i hyrwyddo dysgu ac i gefnogi disgyblion sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig.
Roedd yr arolwg yn rhan o arolwg cenedlaethol gan Estyn yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru.
Roedd rhai o ganfyddiadau'r arolwg yn cynnwys:
- Bod y cyngor wedi ymateb yn gyflym i heriau Covid-19 ac wedi rhoi newidiadau gweithredol ar waith yn gyflym i sicrhau bod gwybodaeth a chymorth ar gael i ysgolion, rhieni/gofalwyr a dysgwyr;
- Bod ysgolion a rhieni yn gwerthfawrogi'r wybodaeth a'r arweiniad clir oedd ar gael iddynt;
- Yn ôl arweinwyr ysgolion, roedd y gefnogaeth gan dîm dysgu digidol y cyngor i fynd i'r afael ag anghenion caledwedd, mynediad a hyfforddiant yn rhagorol;
- Rhoddwyd canmoliaeth arbennig i Wasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid y cyngor gan lawer o benaethiaid ar ôl agor y ddarpariaeth i bawb oedd ei angen heb broses gyfeirio hir.
Canfu'r adolygiad hefyd fod y cyngor yn parhau i fynd i'r afael ag argymhellion adroddiad arolwg 2019 Estyn a'i fod yn cadw'r amserlen yn ei gynllun gweithredu ôl-arolwg.
Dywedodd y Cyngh. Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg: "Mae bron yn flwyddyn ers i'r pandemig effeithio'r wlad ac mae'n dal i godi heriau sy'n rhaid i ni eu goresgyn.
"Buom yn gweithio'n agos gydag arweinwyr ein hysgolion i sicrhau bod staff ein hysgolion a'n dygwyr wedi cael cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Rydym yn croesawu canfyddiadau'r arolwg hwn gan Estyn, sy'n amlygu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud i hyrwyddo dysgu ac i gefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed.
"Byddwn yn parhau i gefnogi arweinwyr ein hysgolion, staff yr ysgol a dysgwyr yn ystod y cyfnod eithriadol o heriol hwn."