Llifogydd: Storm Christoph
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cartrefi yng Nghymru a gafwyd eu taro gan y llifogydd diweddar yn derbyn rhwng £500 a £1000 o gymorth yn dilyn y golygfeydd "dinistriol" o ddifrod ledled y wlad.
Byddwn yn gweinyddu'r grant hwn ar ran Llywodraeth Cymru ac yn deall bod meini prawf y cynllun fel a ganlyn:-
- Bydd deiliaid tai yn cael eu had-dalu o dan y meini prawf canlynol::
- Aelwyd sydd wedi cael ei heffeithio gan lifogydd yn eu prif le byw mewnol
neu
- sydd wedi cael ei symud allan gan y Cyngor, yr Awdurdod Glo neu wasanaeth brys arall am fwy na 24 awr
- Cymorth o £500 i unrhyw ddeiliad tŷ sy'n bodloni'r meini prawf uchod
- Cymorth o £500 pellach ar gyfer deiliad tŷ sydd heb yswiriant
- Bydd angen i ni gadarnhau bod deilydd yr eiddo yn bodloni'r meini prawf a gofynnir i gwsmeriaid roi gwybod am lifogydd sydd wedi effeithio ar eu heiddo trwy gysylltu â'n tîm Cynllunio Brys a fydd yn dilysu hyn. I roi gwybod amy llifogydd, llenwch y ffurflen ar-lein isod.
- Fel rhan o'r broses o wneud cais am grant, gofynnir i ddeiliaid tai gadarnhau manylion yswiriant a bydd angen iddynt ddarparu manylion cyfrif banc er mwyn derbyn y grant.
- Bydd cwsmeriaid yn gallu gwneud cais am y grant hwn drwy wneud cais ar-lein a fydd ar gael ar y dudalen hon unwaith y byddwn wedi derbyn manylion terfynol y cynllun gan Lywodraeth Cymru.
Rhybuddion a Chyngor am Lifogydd Rhybuddion a Chyngor am Lifogydd
Ffurflen Hawlio Cymorth Llifogydd i Aelwydydd Ffurflen Hawlio Cymorth Llifogydd i Aelwydydd