Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Llifogydd: Storm Bert a Storm Darragh

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cartrefi yng Nghymru a gafwyd eu taro gan y llifogydd diweddar yn derbyn rhwng £500 a £1000 o gymorth yn dil
yn y golygfeydd "dinistriol" o ddifrod ledled y wlad.

 

  • £1,000 fesul cartref nad ydynt wedi'u hyswirio
  • £500 fesul cartref sydd wedi'u hyswirio

 

Cymhwysedd: pa bynnag fecanwaith dosbarthu a bennir, rydym yn argymell bod cymorth ariannol i ddeiliaid tai wedi'i gyfyngu i:

  • Eiddo preswyl a ddifrodwyd gan lifogydd, gan ddŵr stormydd yn ystod Storm Bert a Storm Darragh, i le byw mewnol yr eiddo (h.y. ac eithrio garejys, gerddi, adeiladau allanol, portshys ayb);
  • Eiddo preswyl a effeithiwyd gan, ac y bu'n rhaid symud allan ohonynt oherwydd llithriad tir (e.e. Cwmtyleri) neu lyncdyllau (e.e. Merthyr Tudful)
  • Pobl sydd fel arfer yn preswylio - nid yw ar gael i landlordiaid; ac eiddo gwag (gan gynnwys ail gartrefi)
  • Bydd angen i ni gadarnhau bod deilydd yr eiddo yn bodloni'r meini prawf a gofynnir i gwsmeriaid roi gwybod am lifogydd sydd wedi effeithio ar eu heiddo trwy gysylltu â'n tîm Cynllunio Brys a fydd yn dilysu hyn. I roi gwybod amy llifogydd, llenwch y ffurflen ar-lein isod.
  • Fel rhan o'r broses o wneud cais am grant, gofynnir i ddeiliaid tai gadarnhau manylion yswiriant a bydd angen iddynt ddarparu manylion cyfrif banc er mwyn derbyn y grant.

 

Rhybuddion a Chyngor am Lifogydd Rhybuddion a Chyngor am Lifogydd

Ffurflen Hawlio Cymorth Llifogydd i Aelwydydd Ffurflen Hawlio Cymorth Llifogydd i Aelwydydd

 

Noder: Bydd y ffurflen gais yn cau am 5yp ddydd Iau 2il Ionawr 2025

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu