Grant Cyfalaf Dewisol i Fusnesau Bach yn sgil Covid-19
Nod y grant busnes dewisol yw cefnogi busnesau sydd newydd eu ffurfio a busnesau bach sy'n bodoli eisoes gyda'u cynlluniau twf a/neu eu cynlluniau adfer yn ystod pandemig Covid 19 drwy ddarparu cyfraniadau ariannol tuag at wariant cyfalaf.
Ariennir y cynllun grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Powys. Bydd yn rhoi cymorth ariannol tuag at wariant cyfalaf yn unig. Rhaid i fusnesau ddangos yn glir sut y bydd eu gwariant cyfalaf arfaethedig yn gwella eu perfformiad busnes a byddant yn helpu i ddiogelu neu gynyddu cyflogaeth.
Mae'r Grant yn agored i:
- Microfusnes â 1-9 o weithwyr gyda chynllun twf ar gyfer gwariant cyfalaf
- Busnesau newydd sydd wedi dechrau masnachu cyn 1 Mawrth 2020
Rhaid i ymgeiswyr hefyd allu dangos y potensial i dyfu. Diffinnir hyn fel busnes sy'n ceisio cynyddu trosiant neu ddiogelu staff a allai fod mewn perygl. Rhoddir blaenoriaeth i fusnesau a busnesau cyfnod cynnar sydd â'r uchelgais a'r nodwedd o gynyddu.
Yn gymwys am gymorth
Mae'r cymorth wedi'i anelu'n bennaf at fusnesau newydd yn gweithredu yn y sectorau twf a sylfaen canlynol neu'n eu gwasanaethu.
- Deunyddiau Uwch a Gweithgynhyrchu,
- Adeiladu
- Diwydiannu Creadigol
- Ynni a'r Amgylchedd
- Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Gwyddorau Bywyd
- Bwyd a Diod
- Hamdden, Twristiaeth a Lletygarwch
- Manwerthu
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ddim yn gymwys am gymorth
Nid yw'r sectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth:
- cynnyrch amaethyddiaeth yn bennaf,
- coedwigaeth,
- acwafeithrin,
- pysgota a
- gwasanaethau statudol, e.e. iechyd sylfaenol ac addysg
Bydd pob prosiect yn cael ei asesu ar nifer, math ac ansawdd yr allbynnau y byddant yn eu cyflawni. Os caiff eich prosiect ei gymeradwyo, yna bydd yr allbynnau a gynhwysir yn eich cais yn rhan o'r cytundeb grant.
Sut i wneud cais
Mae'r broses ymgeisio yn agor ar 1 Chwefror 2021 ac yn cau am 12pm ddydd Llun 15 Chwefror. Dyfernir grantiau yn ôl disgresiwn y Cyngor Sir a darperir penderfyniad o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y cais. Mae penderfyniad y Cyngor Sir yn derfynol.
Rhaid i'r holl wariant grant ddigwydd, a rhaid ei hawlio erbyn 26 Mawrth 2021.
Gweler y dudalen ganllawiau am fanylion llawn y grant
Applications are currently being assessed and we will be in contact shortly.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod cais, cysylltwch ag Andrea Mansfield yn y Tîm Datblygu Economaidd yng Nghyngor Sir Powys: e-bost: economicdevelopment@powys.gov.uk Ffôn 01597 826739.