Dysgu ar-lein yn parhau ar gyfer ysgolion Powys

29 Ionawr 2021
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud y bydd ysgolion ar draws y sir yn parhau i ddysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror.
Heddiw (dydd Gwener, 29 Ionawr), cadarnhaodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg y bydd y trefniant presennol ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn parhau yn ei le tan ddiwedd hanner tymor.
Bydd ysgolion yn dal i fod ar agor ond dim ond i blant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy'n agored i niwed.
Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg hefyd y bwriad yw y bydd disgyblion yn dechrau dychwelyd i'r ysgol o ddydd Llun, 22 Chwefror ond mae hyn yn dibynnu ar gyfraddau trosglwyddo'r coronafeirws yn parhau i ostwng.
Mae'r Gweinidog Addysg hefyd wedi dweud y bydd dysgwyr yn dychwelyd i ysgolion cam wrth gam, gan ddechrau gyda'r dysgwyr ieuengaf mewn ysgolion cynradd.
Dywedodd y Cyngh. Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Rwy'n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru. Er bod sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi gwella ar draws Cymru, mae angen cymryd camau gofalus oherwydd rydym yn gwybod y gall y sefyllfa newid yn gyflym iawn.
"Yn yr un modd â Llywodraeth Cymru, rydym hefyd wedi ymrwymo i addysgu a dysgu wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl ond dim ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
"Mae'r neges gan Lywodraeth Cymru yn para i fod yn glir - bydd dychwelyd i'r ysgol i'n dysgwyr ddim ond yn bosibl os yw'r cyfraddau trosglwyddo yn para i ostwng a bod amodau iechyd y cyhoedd yn caniatau iddynt ddychwelyd.
"Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa ddifrifol felly mae'n hanfodol ein bod i gyd yn dilyn y cyngor i aros gartref a diogelu ein gwasanaeth iechyd.
"Bydd ysgolion yn parhau i fod ar agor ond dim ond ar gyfer plant gweithwyr hanfodol yn ogystal â dysgwyr sy'n agored i niwed lle bo hynny'n gwbl angenrheidiol. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod plant yn aros gartref lle bynnag y bo modd, gan mai dyma'r lle mwyaf diogel i bawb.
"Ein blaenoriaeth yw diogelwch a lles ein dysgwyr a staff yr ysgol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n hysgolion, gan eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn a'u helpu i gynllunio ar gyfer croesawu disgyblion yn ôl i'r ysgol pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Tan hynny, bydd dysgu ar-lein ym Mhowys yn parhau hyd nes y clywir yn wahanol.
"Hoffwn ddiolch i ysgolion am eu hymdrechion parhaus i gefnogi disgyblion yn ystod y cyfnod anodd hwn a hoffwn hefyd ddiolch i rieni am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod digynsail hwn o darfu ar ein hysgolion."