Dilynwch y Cod Cefn Gwlad pan fyddwch allan o gwmpas y lle

2 Chwefror 2021
Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i barhau i barchu a dilyn cod cefn gwlad wrth fwynhau ein sir hardd.
Ar y cyfan, mae trigolion Powys yn chwarae eu rhan i atal coronafeirws rhag lledaenu yn ystod cyfnod arall o gyfyngiadau symud ac yn #CadwPowysynDdiogel drwy aros gartref lle bynnag y bo modd.
Ond hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau Rhybudd Lefel Pedwar hyn, mae'n bwysig cofio bod mynd allan ar gyfer ychydig o ymarfer corff yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r rheoliadau presennol yn datgan y gall pob un ohonom adael ein cartrefi mor aml ag yr hoffech i ymarfer corff, cyn belled â bod yr ymarfer hwnnw'n dechrau ac yn gorffen o'n cartrefi.
"Y budd mwyaf sydd gennym yma ym Mhowys yn ystod y cyfyngiadau hyn yw mynediad i ddigonedd o fannau awyr agored i'w darganfod yn ddiogel o garreg ein drws." Esboniodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet ar faterion yr Amgylchedd.
"Gyda channoedd o filltiroedd o hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau traed a lonydd beicio, mae mynd allan am ddos ddyddiol o ymarfer corff ac awyr iach yn rhywbeth y gall bob un ohonom fanteisio arno tra'n parhau i gydymffurfio â'r cyfyngiadau coronafeirws presennol.
"Fodd bynnag, gyda mwy a mwy ohonom yn gwneud y gorau o'n cefn gwlad hardd a chyda'r posibilrwydd o dywydd y gwanwyn a'r nosweithiau goleuach rownd y gornel, nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach i sicrhau ein bod yn cadw at y cod cefn gwlad tra'n mwynhau'r awyr agored."
Cofiwch y canlynol:
Parchwch bobl eraill:
- ystyriwch y gymuned leol ac eraill sy'n mwynhau'r awyr agored
- parciwch yn ofalus a chadw giatiau a rhodfeydd yn glir
- gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent
- dilynwch lwybrau ond gadewch i eraill basio pan fydd hi'n gul
Diogelwch yr amgylchedd naturiol:
- peidiwch â gadael olion eich ymweliad. Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi
- byddwch yn ofalus gyda barbeciwiau, a pheidiwch â dechrau tanau
- cadwch gŵn dan reolaeth effeithiol
- baw ci - rhowch ef mewn bag a'i roi yn y bin neu ewch ag ef gyda chi
Mwynhewch yr awyr agored:
- cynlluniwch ymlaen llaw, drwy ganfod pa gyfleusterau sydd ar agor, a pharatoi
- dilynwch gyngor ac arwyddion lleol a chadwch bellter cymdeithasol
I gael rhagor o wybodaeth am y Cod Cefn Gwlad, ewch i https://cy.powys.gov.uk/cefn-gwlad