Grantiau cyfalaf newydd ar gael ar gyfer busnesau Powys

2 Chwefror 2021
Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i helpu busnesau bach gyda chostau cyfalaf fel rhan o gynllun grant dewisol newydd sy'n cael ei weithredu gan Gyngor Sir Powys.
Gall y cynllun gefnogi busnesau newydd a busnesau presennol gyda chynlluniau twf yn ogystal ag adferiad ar ôl Covid. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru.
Mae grantiau o rhwng £1,000 a £10,000 ar gael hyd at uchafswm o 50% o gyfanswm y costau cymwys.
Mae'r gefnogaeth ar gael i ystod eang o sectorau gan gynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu, a manwerthu, ond yn anffodus ni fydd busnesau ym maes cynhyrchu amaeth, coedwigaeth, dyframaethu, pysgota a gwasanaethau statudol yn gymwys ar gyfer y cynllun penodol hwn.
I fod yn gymwys, bydd rhaid i'r busnesau ddangos sut y bydd eu gwariant cyfalaf arfaethedig yn gwella perfformiad busnes ac yn helpu i ddiogelu neu gynyddu cyflogaeth.
Bydd yn rhaid i fusnesau darparu arian cyfatebol i'r grant o ffynhonnell yn y sector preifat fel eu harian parod wrth gefn eu hunain neu fenthyciad.
Mae'r gronfa rwan ar agor a bydd yn cau Dydd Llun 22 Chwefror.
Dywedodd y Cyngh. Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar faterion Cyllid: "Rwy'n falch bod y cyngor yn gallu darparu cymorth sydd ei yn fawr ar gyfer prosiectau cyfalaf lleol trwy'r gronfa newydd hon.
"Gellir defnyddio'r arian i brynu offer hanfodol neu ar gyfer gwelliannau i eiddo a fydd yn hybu adferiad a thwf y busnes.
"Mae'r ffenestr ar gyfer ceisiadau yn eithaf byr gan mai dim ond ar gyfer y flwyddyn ariannol hon y mae'r cyllid ar gael, felly ni fydd gan fusnesau cyfnod hir i wneud cais am y grant.
"Rwy'n gobeithio y gall y grantiau cyfalaf gefnogi nifer dda o fusnesau Powys ar yr adeg heriol hon a helpu i'w cynnal i'r dyfodol."
Mae rhagor o fanylion gan gynnwys meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys: https://en.powys.gov.uk/article/10367/Discretionary-Covid-19-Small-Business-Capital-Grant