Ysgol Dyffryn Trannon
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynnig i newid cyfrwng iaith Ysgol Dyffryn Trannon.
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynnnig i newid categori iaith Ysgol Dyffryn Trannon. Mae'r cynnig fel a ganlyn:
- Gwneud newid rheoledig er mwyn newid cyfrwng yr addysg yn Ysgol Dyffryn Trannon o ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg
- Byddai hyn yn cael ei gyflwyno fesul cam, o flwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda'r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022.
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion (2018) a Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 25 Chwefror 2021 a bydd yn gorffen ar 15 Ebrill 2021.
Gwneud ymateb
I ymateb i'r ymgynghoriad, gallwch:
- Lenwi'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad - fersiwn ar-lein ar gael yma neu fersiwn Word
- Anfon e-bost at y Tîm Trawsnewid Ysgolion - school.consultation@powys.gov.uk
- Ysgrifennu at y Tîm Trawsnewid Ysgolion, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG
Dweud eich Dweud Ysgol Dyffryn Trannon - Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad
Ddogfennaeth Ymgynhori
Mae copïau papur o'r ddogfen ymgynghori ar gael trwy gysylltu â'r Tîm Trawsnewid Addysg gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma