Cabinet i ystyried cynigion i gau ysgolion bach

9 Chwefror 2021
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd ymgynghoriad ar gynigion i gau pedair ysgol fach ym Mhowys yn cael eu cynnal yn hwyrach y mis hwn.
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu ad-drefnu a rhesymoli darpariaeth ysgolion cynradd yn y sir fel rhan o'i Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
Mae'r cyngor yn bwriadu cau'r pedair ysgol gynradd fach canlynol:
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Castell Caereinion
- Ysgol Gynradd Sirol Yr Ystog
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr
- Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon
Heddiw, cytunodd y Cabinet (dydd Mawrth, 9 Chwefror) i ddechrau'r broses statudol a bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion yn dechrau yn hwyrach y mis hwn (Chwefror)
Gallai'r ysgolion gau ddiwedd mis Awst 2022, gyda disgyblion yn trosglwyddo i'w hysgol ddewisol agosaf, os caiff y cynigion eu cymeradwyo.
Dywedodd y Cyngh. Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Rydym yn ymroddedig i drawsnewid profiad y dysgwr a hawliau ein dysgwyr a byddwn yn cyflawni hyn drwy ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
"Mae ein strategaeth yn uchelgeisiol, yn gyffrous a chredwn y bydd yn rhoi'r dechrau gorau posibl y mae ein dysgwyr yn ei haeddu. Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau ei weithredu, byddwn yn wynebu penderfyniadau mawr wrth i ni geisio mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu addysg ym Mhowys sy'n cynnwys y gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, niferoedd disgyblion sy'n gostwng a'r nifer uchel o leoedd gwag.
"Nid ar chwarae bach y gwnaed y cynigion hyn ond ry'n ni wedi sicrhau bod budd gorau'r dysgwyr yn y pedair ysgol hyn wedi bod yn flaenllaw yn ystod ein trafodaethau a'n penderfyniadau.
"Pe bai'r ysgolion hyn yn cau, yna byddai'r dysgwyr yn mynychu ysgolion a fyddai mewn sefyllfa well i fodloni gofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd a gallai hynny ddarparu ystod ehangach o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol.
"Byddwn nawr yn dechrau'r ymgynghori ffurfiol ar y cynigion yn hwyrach y mis hwn."