Cymorth ariannol i'ch helpu i ddechrau busnes

12 Chwefror 2021
Gall trigolion Powys sy'n ystyried hunangyflogaeth i'w helpu i ddychwelyd i'r gwaith fod yn gymwys i gael cymorth grant.
Mae Busnes Cymru wedi cyhoeddi 'Grant Rhwystrau' gwerth £1.2m i gefnogi mwy o fusnesau newydd a rhoi hwb i gyflogaeth.
Mae grantiau dewisol o hyd at £2,000 ar gael i bob unigolyn di-waith, ond rhoddir blaenoriaeth i'r grwpiau hynny y disgwylir i gael eu taro galetaf gan y pandemig ac sy'n wynebu mwy o rwystrau economaidd:
· Pobl Ifanc
· Pobl anabl
· Pobl o gefndiroedd BAME
· Merched
Rheolir y cynllun gan Fusnes Cymru a bydd angen cynllun busnes ategol ar geisiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Iain McIntosh, Aelod Cabinet ar faterion Datblygu Economaidd: "Gall dechrau busnes fod yn frawychus ar y gorau, ond gall yr hinsawdd economaidd bresennol a achosir gan y pandemig wneud hyn hyd yn oed yn fwy heriol.
"Dyna pam mae'r gefnogaeth hon mor bwysig. Nid yn unig y bydd y grant yn helpu i dalu am gostau cychwyn hanfodol, ond bydd Busnes Cymru yn gweithio ochr yn ochr â'r rhai sy'n ystyried hunangyflogaeth er mwyn sicrhau mai dyma'r ffordd orau ymlaen.
"Gallai'r cyfle hwn gynnig dechrau newydd i rywun a bod y sbardun sydd ei angen arnynt i adeiladu'r busnes y maen nhw wastad wedi dymuno ei gael.
"Mae llawer o rwystrau sy'n atal pobl rhag sefydlu busnesau, ond mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i weithio gyda'i bartneriaid i fynd i'r afael â'r materion hyn a chryfhau ein heconomi."
Mae Buses Cymru yn darparu ystod o gymorth i helpu pobl yn eu mentrau busnes. I gael rhagor o wybodaeth am hyn a'r Gronfa Rhwystrau ewch i: https://businesswales.gov.wales/business-wales-barriers-grant
Mae'r grant ar agor tan 31 Mawrth 2021.