Coronafeirws yn parhau i fod yn berygl

16 Chwefror 2021
Mae COVID-19 yn parhau i fod yn fygythiad parhaus er llwyddiant rhaglen frechu'r sir - dyna'r rhybudd i drigolion Powys.
Daw'r rhybudd ar ôl i gyfanswm y rhai bu farw yn y sir o COVID basio 200, gan gofrestru ugain o farwolaethau yn yr wythnos hyd at 6 Chwefror - yr ail ffigwr uchaf yn ystod yr argyfwng.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Dyma garreg filltir trychinebus, ac mae'n ein hatgoffa ni bod y feirws ofnadwy hwn yn dal i fod yn berygl i bawb. Rhaid i ni fod yn wyliadwrus a dilyn cyfyngiadau cenedlaethol. Ni ddylwn anghofio bod pob achos yn drychineb i ryw aelwyd ym Mhowys a rhaid gwneud popeth yn ein gallu i atal lledaenu'r feirws erchyll hwn.
"Mae llwyddiant y rhaglen frechu yn newyddion da i bawb ond ni fydd yn datrys y broblem ar ei ben ei hun. Mae'n hanfodol fod pawb yn dilyn y cyfyngiadau cenedlaethol. Ni allwn fentro gweld ton arall angheuol o'r feirws."
Cafodd y sylwadau hyn eu hategu gan Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y Sir, Stuart Bourne.
"Hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu, mae'n bwysig parhau i ddilyn canllawiau cenedlaethol. Mae'n bosibl y gallwch ddal i gario a throsglwyddo'r feirws i bobl eraill sy'n agored i niwed, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich diogelu," dywedodd.
"Mae'r gyfradd heintio'n parhau i fod yn uchel ym Mhowys ac ar draws Cymru, felly mae'n bwysicach nawr nag erioed os ydych chi'n teimlo'n sâl, neu'n dangos unrhyw arwyddion neu symptomau o'r coronafeirws, i hunanynysu ar unwaith yn gyntaf ac yna trefnu prawf mor fuan â phosibl. Cadw pellter cymdeithasol a hylendid personol yw'r ffordd fwyaf effeithiol i osgoi dal y feirws.
"Os ydych wedi cael eich brechu, dylech fod yn hyderus ei fod yn cynnig lefel uchel o ddiogelwch, ond fel pob brechlyn, p'un ai'r ffliw neu feirws arall, ni fydd yn 100% effeithiol i bawb. Mae dal i fod yn bosibl dal y coronafeirws heb ddangos unrhyw arwyddion a symptomau clir, ac yna'i drosglwyddo i rywun a allai fynd yn sâl iawn."
Cofiwch, mae pob rhan o Gymru ar lefel rhybudd 4 ac mae'n rhaid i bawb ddilyn y canllawiau cenedlaethol ac:
- aros gartref
- dim ond cwrdd â'r rhai sy'n byw gyda chi
- gweithio gartref os gallwch chi
- gwisgo gorchudd wyneb lle mae angen
- golchi eich dwylo'n rheolaidd
- cadw 2 fetr i ffwrdd o unrhyw un sydd ddim yn byw gyda chi.
Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn, p'un ai wedi cael y brechiad neu beidio.
Am wybodaeth ar beth sydd ei angen i ni gyd wneud ar lefel rhybudd 4, ewch i wefan Llywodraeth Cymru Beth sydd angen ichi wneud ar lefel rhybudd 4