Cyfnod newydd yn agor yn hanes Automobile Palace eiconig Llandrindod

22 Chwefror 2021
Mae Cyngor Sir Powys wedi cwblhau prynu'r Automobile Palace yn Llandrindod sy'n adeilad rhestredig Gradd 2*.
Lleolir yr adeilad art deco hynod mewn llecyn amlwg yng nghanol y dref ac fe'i hadeiladwyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dan gyfarwyddyd un o arloeswyr cynharaf moduro Cymru, Mr Tom Norton. Daeth Norton ag awyrennu i'r Canolbarth a bu'r adeilad yn gartref i'r asiantaethau Ford ac Austin cyntaf yng Nghymru.
Caeodd yr adeilad fel modurdy yn gynnar yn y nawdegau cyn cael ei newid yn unedau busnes. Ond mae nifer y tenantiaid wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r adeilad wedi dirywio.
Bellach mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau cyllid oddi wrth Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gaffael ac adnewyddu'r Automobile Palace sydd o bwys i dreftadaeth Cymru. Mae'r Cyngor yn bwriadu adnewyddu'r adeilad yn gynnil a'i ddatblygu'n ganolfan fusnes i gefnogi adfywio'r dref a'r economi leol.
Dywedodd y Cynghorydd Iain MacIntosh, Aelod y Cabinet ar faterion Tai, Cynllunio ac Adfywio Economaidd, "Nod y prosiect yw adfywio'r adeilad sydd o bwys i dreftadaeth y wlad a chefnogi mentergarwch newydd. Mae buddsoddi yn ein hadeiladau'n hanfodol i gefnogi hyfywedd canol trefi ac adfer yn sgil Covid-19.
Roedd Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac eiddo, y Cynghorydd Phyl Davies o blaid prynu'r adeilad. "Mae'r cyngor yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan fusnesau sydd am leoli o fewn yr Automobile Palace unwaith bod y gwaith adnewyddu wedi cael ei gwblhau," meddai. "Ar hyn o bryd rydym y disgwyl bod y tenantiaid sydd yno'n barod am aros. Dylid cyflwyno pob datganiad o ddiddordeb i'r Tîm Eiddo Masnachol yng Nghyngor Sir Powys."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, Hannah Blythyn: "Mae adfywio'r Automobile Palace yn Llandrindod yn enghraifft wych o sut rydym yn cefnogi dyfodol trefi Cymru trwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi. Nid yn unig y bydd yn rhoi hwb i gynaliadwyedd a nifer yr ymwelwyr yn y dref ond bydd yn cefnogi twf economaidd trwy greu cyfleoedd i fusnesau mewn adeilad eiconig yng nghanol y dref."