Gwell Sefyllfa Ariannol

23 Chwefror 2021
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi newidiadau i'w gyllideb arfaethedig yn sgil gwelliant mae'n ei ddisgwyl i'w sefyllfa ariannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Mae'r Cabinet wedi ymateb i'r sefyllfa ariannol well trwy leihau'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i 2.9 y cant - roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cynnydd o 3.9 y cant gafodd ei argymell yn gynharach yn y mis.
Hefyd, bydd Cronfa Adfer COVID Powys newydd gwerth £1.8m yn cael ei sefydlu o arian un tro, a'i gadw mewn cronfa wrth gefn benodol. Bydd hyn yn cefnogi cymunedau a gwasanaethau'r Cyngor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Dros y dyddiau diwethaf rydym wedi cael cyfres o gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol ychwanegol i'r Cyngor Sir".
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac aelod o'r Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Aled Davies: "Daw llawer o'r arian gydag amodau a thelerau penodol, ond daw rhywfaint i ariannu meysydd roedd y cyngor wedi disgwyl eu hariannu ei hun a bydd yn cynnwys gwell alldro ariannol i'r cyngor. Bydd y gostyngiad mewn pwysau a newidiadau technegol i drefniadau'r gyllideb yn golygu y gallwn gyfyngu'r cynnydd i Dreth y Cyngor i 2.9 y cant - un y cant yn is na'r argymhelliad blaenorol.
"Rydym hefyd mewn sefyllfa i neilltuo £1.8m a sefydlu Cronfa Adfer Powys i helpu grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a gwasanaethau'r cyngor i gefnogi pobl a chymunedau i ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil COVID-19.
"Bydd manylion y modd y bydd y Gronfa Adfer yn gweithredu yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd gennym ragor o wybodaeth," dywedodd.
"Rydym wedi ystyried y sefyllfa yn ofalus ac 'rydym wedi dewis lleihau'r effaith ar ein trigolion a chefnogi ein cymunedau. Nid yw'n golygu fod y pwysau ar y gyllideb wedi diflannu, rhaid i ni barhau'n ofalus, ond mae'n newyddion i'w groesawu," ychwanegodd.