Cyhoeddi hysbysiad statudol ar gyfer cynlluniau Ysgol pob oed Llanfair Caereinion

23 Chwefror 2021
Mae cynlluniau i uno dwy ysgol yng ngogledd Powys i greu ysgol pob oed newydd wedi cymryd cam ymlaen gyda chyhoeddi hysbysiad statudol, medd y cyngor sir.
Yr wythnos ddiwethaf (dydd Mawrth, 16 Chwefror), cytunodd Cabinet Cyngor Sir Powys i gyhoeddi hysbysiad statudol ar gynigion i sefydlu ysgol pob oed newydd yn Llanfair Caereinion drwy gau Ysgol G.G. Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion a sefydlu ysgol pob oed 4 - 18 ar y safleoedd presennol o fis Medi 2022.
Bydd y cynigion yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg, sydd am wella hawl a phrofiad dysgwyr. Cymeradwywyd y strategaeth ym mis Ebrill 2020.
Felly, mae gan aelodau o'r cyhoedd 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau sydd ganddynt i'r cyngor am y cynigion.
Dywedodd y Cyngh. Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cynnig gwell i ddysgwyr ar gyfer plant a phobl ifanc ym Mhowys trwy ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys. Rwy'n credu y bydd ein cynnig ar gyfer yr ysgolion yn Llanfair Caereinion yn elwa disgyblion a staff addysgu.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y Cabinet yn clywed barn y rhai sy'n gwrthwynebu'r cynnig cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol a hoffwn annog hwy i anfon eu barn atom fel y gallwn ei ystyried."
I gyflwyno gwrthwynebiad, ewch i Trawsnewid Addysg a dilynwch y dolenni.
Neu, gallwch anfon eich gwrthwynebiad atom yn ysgrifenedig trwy anfon e-bost at education@powys.gov.uk neu drwy'r post i'r Prif Swyddog Addysg Dros Dro, Cyngor Sir Powys, Neuadd Sir Powys, Llandrindod, Powys, LD1 5LG.
Bydd y Cyfnod Gwrthwynebu'n cau, ddydd Mawrth 23 Mawrth 2021.