Bwrw 'mlaen ag ailddatblygu Pont Aur

Mawrth 2, 2021
Bydd trigolion Ystradgynlais yn gallu manteisio ar gyfleusterau Gofal Ychwanegol ar ôl i'r cyngor sir roi caniatâd cynllunio i ddatblygu cyfleusterau ym Mhont Aur.
Bydd y datblygiad hwn, sy'n brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a'r Grŵp Pobl, yn uwchraddio'r Tai Gwarchod presennol er mwyn cynnwys cyfleusterau Gofal Ychwanegol, gan barhau i dderbyn trigolion gydag ychydig neu ddim anghenion gofal. Bydd y cynllun hefyd yn creu 12 o gartrefi ychwanegol i bobl hŷn lleol mewn estyniad i'r adeilad presennol.
Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig llety modern, pwrpasol sydd â gofal a chymorth 24 awr i ddiwallu anghenion a disgwyliadau newidiol trigolion, gan olygu y gallant fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain gyda'u drws ffrynt eu hunain. Bydd gwasanaethau gofal 24 awr ar y safle, bydd cyplau a ffrindiau'n gallu aros gyda'i gilydd a bydd cymysgedd o bobl gyda gwahanol lefelau angen, gan gynnwys y rhai sy'n byw'n annibynnol.
Bydd pob fflat Gofal Ychwanegol yn cynnwys ystafelloedd gwely hwylus, ystafell fyw, cegin ar wahân a chawod â mynediad gwastad gyda'r datblygiad yn gyffredinol yn cynnwys mannau cymunol, larymau cymunedol a mynediad at ofal gyda chymorth technoleg.
Mae'r prosiect yn rhan o Strategaeth Iechyd a Gofal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a'r cyngor i ddatblygu mwy o ddewis ym Mhowys o ran cartrefi i bobl hŷn ac yn dilyn ymlaen o adolygiad y cyngor o anghenion llety i oedolion yn y sir yn 2018.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol i Oedolion: "Mae tai gofal ychwanegol yn cynnig urddas, diogelwch ac annibyniaeth i bobl hŷn a thawelwch meddwl i'w teuluoedd. Mae'n hyfryd gweld cynllun Pont Aur yn symud ymlaen: bydd yn rhoi dewis gwych i bobl hŷn yn Ystradgynlais."
Pont Aur fydd yr ail gyfleuster Gofal Ychwanegol ym Mhowys. Agorodd Llys Glan yr Afon yn 2017 yn Y Drenewydd, mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin, ac mae wedi rhedeg yn llwyddiannus ers hynny.
Adam Roberts yw Pennaeth Datblygu, Grŵp Pobl (Y Gorllewin): "Rydym wrth ein boddau cael caniatâd cynllunio i'r cynllun hwn ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r cyngor sir i greu mwy o gartrefi sy'n ateb anghenion Ystradgynlais. Yn Pobl, rydym wedi ymrwymo i greu mannau hyfryd i fyw a fydd yn para'n dragywydd ac yn gwella'r gymuned leol. Byddwn yn parhau i weithio gyda thrigolion presennol Pont Aur i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gwaith ailddatblygu."
Mae'r prosiect gwerth £5.5m wedi elwa o nawdd Llywodraeth Cymru yn ogystal â chyfraniad ariannol gan y cyngor sir a Grŵp Pobl. Mae disgwyl i'r estyniad newydd fod yn barod i dderbyn trigolion yn 2023.