Y Cabinet i ystyried cau dwy ysgol fach

15 Mawrth 2021
Dywedodd y cyngor sir y bydd cynlluniau i ymgynghori ar gau dwy ysgol fach ym Mhowys yn cael eu trafod yr wythnos hon.
Mae Cyngor Sir Powys yn awyddus i ad-drefnu'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn y sir fel rhan o'i Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
Mae'r cyngor yn cynnig cau dwy ysgol gynradd fach a dydd Iau 18 Mawrth, gofynnir i'r Cabinet ddechrau'r broses statudol i gau'r canlynol:
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn
Fel rhan o'r cynigion, gofynnir i'r Cabinet fwrw ymlaen a datblygu achos cyfiawnhad busnes i'w ail-gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer estyniad newydd i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid. Gofynnir iddynt hefyd ddechrau ar y broses statudol i wneud newid a reoleiddir i greu 90 o lefydd ychwanegol yn yr ysgol o fis Medi 2023 ar ôl gorffen yr estyniad newydd.
Fe allai'r ysgolion gau ar ddiwedd mis Awst 2023 gyda'r disgyblion yn trosglwyddo i'w hysgol agosaf nesaf os caiff y cynigion eu derbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid profiadau'r dysgwr a hawliau ein dysgwyr ac fe wnawn gyflawni hyn trwy ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
"Mae gennym strategaeth uchelgeisiol a chyffrous a chredwn y bydd yn rhoi'r dechrau gorau posibl a haeddiannol i'n dysgwyr ni. Ond wrth i ni ddechrau rhoi'r strategaeth ar waith, byddwn yn wynebu penderfyniadau dyrys wrth i ni fynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu addysg ym Mhowys gan gynnwys nifer fawr o ysgolion bach yn y sir, llai o ddisgyblion a nifer fawr o lefydd gwag.
"Nid ar chwarae bach y daethom i'r cynigion hyn ond rydym wedi sicrhau mai buddion dysgwyr yr ysgolion hyn sydd bwysicaf o ran ein trafodaethau a'n penderfyniadau.
"Os yw'r ysgolion hyn i gau, yna byddai'r dysgwyr hyn yn mynd i ysgolion sydd â gwell adnoddau i ateb anghenion y cwricwlwm cenedlaethol newydd ac yn gallu cynnig amryw o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol.
"Rwy'n argymell i'r Cabinet ein bod yn dechrau ymgynghori'n ffurfiol i gau'r ddwy ysgol hon.
"Mae staff ein hysgolion wedi bod yn gweithio mewn amgylchiadau anarferol oherwydd Covid-19 ac rwyf am dalu teyrnged i'w gwaith caled a'u hymroddiad dros y cyfnod anodd hwn."
"Fodd bynnag mae angen i ni sicrhau y gallwn roi'r dechrau gorau posibl a haeddiannol i'n dysgwyr ni felly mae'n bwysig ein bod yn parhau â'n cynlluniau i drawsnewid addysg a gwireddu ein strategaeth."