Masnachwyr Diegwyddor yn targedu trigolion Powys

15 Mawrth 2021
Mae'r cyngor yn rhybuddio trigolion a busnesau ym Mhowys i fod yn ochelgar o fasnachwyr sy'n galw'n ddirybudd gan gynnig gwneud gwaith trwsio a chynnal a chadw ar adeiladau.
Mae Cyngor Sir Powys am sicrhau nad yw trigolion a busnesau yn cael eu twyllo gyda'u harian gan fasnachwyr diegwyddor, yn dilyn adroddiadau y mae'r adran Safonau Masnach wedi'u derbyn yn ddiweddar.
Mae rhai gweithwyr sy'n galw'n ddi-rybudd yn dwyllwyr heb gymwysterau sy'n codi symiau mawr o arian am ychydig iawn o waith, neu ddim gwaith o gwbl.
Dywedodd y Cyng Graham Breeze, Aelod Portffolio'r Cabinet dros y Gwasanaethau Rheoleiddio: "Yn yr achosion hyn, mae'r gwaith a wneir yn eithriadol o wael. Ein cyngor i bobl yw na ddylent fyth dderbyn gwaith gan bobl sy'n galw'n ddi-rybudd a dylent gofio'r hen ddywediad - os yw'n ymddangos ei bod yn fargen anghredadwy, yn aml iawn mae'n llythrennol anghredadwy!
"Bydd masnachwyr diegwyddor yn mynnu cael eu talu ar unwaith, a byddant yn ceisio symud ymlaen heb allu cael eu holrhain. Holwch am fanylion y masnachwr, yn enwedig eu rhif ffôn a'u cyfeiriad.
"Holwch eich ffrindiau neu'ch cymdogion a ydynt wedi clywed am y busnes, a gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig ac arno bris eglur cyn mynd ati i gytuno ar y gwaith.
"Peidiwch â rhoi'r un geiniog i'r masnachwr nes y bydd y gwaith wedi ei gwblhau ac yn eich bodloni, a pheidiwch da chi â chael eich gorfodi i fynd i fanc neu gymdeithas adeiladu i godi arian."
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i fasnachwyr dirybudd roi 'hysbysiad diddymu', sy'n rhoi 14 diwrnod iddynt ddiddymu'r contract a wnaed am unrhyw waith gwerth dros £42. Mae methu â chyflwyno hysbysiad diddymu yn y modd cywir yn drosedd.
Dylai unrhyw un sy'n credu eu bod wedi'u twyllo gan fasnachwr o'r fath gysylltu â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 03454 04 05 06.