Gwnaeth Covid fi yn ddi-waith yn 60 oed, ond dwi wedi darganfod gyrfa newydd

16 Marwth 2021
Mark Hughes sy'n rhannu ei stori i annog ceiswyr gwaith ym Mhowys i dderbyn cymorth am ddim
Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod cyfradd ddiweithdra Powys bellach yn 5.1%i, sef y ffigur uchaf ers pum mlynedd. Mae Mark Hughes o Lanidloes yn un o 250 o bobl sy'n derbyn cymorth i weithio gan Cymunedau am Waith a Mwy - cynllun mentora cyflogaeth rhad ac am ddim ym Mhowys.
Wrth i gyfraddau diweithdra yn yr ardal gynyddu o ganlyniad i'r pandemig, mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW +) yn barod i gefnogi mwy o drigolion Powys sy'n chwilio am waith.
Mae'r cynllun yn annog pobl 16 oed a hŷn, sydd naill ai'n ddi-waith neu mewn gwaith â chyflog isel, i ymuno. Gall y rhai sy'n cofrestru gael mynediad at gymorth arbenigol un i un gan fentor, ochr yn ochr â chyfleoedd hyfforddi pwrpasol i helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol hanfodol a gwella eu siawns o sicrhau gwaith.
Cafodd Mark ei wneud yn ddi-waith o'i rôl beirianyddol ym mis Ebrill 2020, meddai: "Ar ôl cael fy niswyddo, roeddwn i'n mynd i lawer o gyfweliadau, ond roeddwn i'n ei chael hi'n anodd sicrhau gwaith. Yn 60 oed, roeddwn i wir yn meddwl bod fy oedran yn fy nal yn ôl.
"Penderfynais ofyn am gyngor gan Cymunedau am Waith a Mwy, a gynigiodd lawer o awgrymiadau defnyddiol imi o'r cychwyn cyntaf am fy rhagolygon gyrfa."
Ym mis Hydref, gyda sgiliau a gwybodaeth newydd i ddilyn trywydd gwahanol, cychwynnodd Mark ar ei yrfa newydd yn gyrru lorïau a ffyrch codi, gan ddefnyddio ei sgiliau peirianneg fel rhan o'i rôl i gynnal a chadw peiriannau.
Mae Mark yn parhau: "Roedd fy mentor yn gefnogol iawn, yn fy helpu i ddod o hyd i'r hyfforddiant cywir ac roeddwn bob amser yn gwybod ei fod ar ben arall y ffôn pe bai angen.
"Fe wnaeth Cymunedau am Waith a Mwy fy helpu i feddwl y tu hwnt, ymestyn fy ffiniau ac archwilio gwahanol lwybrau gwaith nad oeddwn i wedi ystyried o'r blaen."
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i ddarparu gan Gyngor Sir Powys, mae Cymunedau am Waith a Mwy yn helpu unigolion i wella eu sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, meithrin hyder, dod o hyd i leoliadau gwaith, a dod o hyd i gyllid ar gyfer cymwysterau.
Dywedodd y Cynghorydd Iain McIntosh, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Ddatblygu ac Adfywio Economaidd: "Mae Powys, fel gweddill Cymru a'r DU, wedi cael ei heffeithio'n fawr gan y pandemig. Yn yr amseroedd heriol hyn, rydyn ni'n gwybod bod angen ein gwasanaethau ar bobl ledled Powys yn fwy nag erioed.
"Mae'r 12 mis diwethaf wedi tynnu sylw at, a chynyddu'r rhwystrau sy'n atal pobl difreintiedig rhag cyflawni eu potensial. Mae'r cynllun Cymunedau am Waith a Mwy yn barod i helpu cymaint o bobl â phosibl i wella eu siawns o sicrhau gwaith a hyfforddiant o fewn Powys."
I gael mwy o wybodaeth neu i gofrestru, gallwch ymweld â gwefan CfW + Powys: https://cy.powys.gov.uk/CAW