Datblygiad Tai Cymdeithasol yn Sarn bron yn dod i ben

16 Mawrth 2021
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod gwaith ar ddatblygiad tai cymdeithasol ynni isel newydd yng ngogledd Powys yn tynnu at ei derfyn.
Mae'r datblygiad o saith o dai yn cael ei adeiladu yn Sarn, ger Y Drenewydd a hwn fydd y cynllun tai cymdeithasol cyntaf ym Mhowys i gael ei ardystio fel un Passivhaus - un o'r mathau o dai mwyaf effeithlon o ran ynni.
Datblygwyd y cynllun gan Dîm Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys a bydd yn helpu'r cyngor i gyflawni un o nodau Gweledigaeth 2025 - i adeiladu 250 o dai newydd erbyn 2025.
Mae'r datblygiad yn cael ei adeiladu gan y contractwyr Pave Aways, ac mae'n cynnwys pedwar byngalo dwy ystafell wely, dau dŷ dwy ystafell wely ac un tŷ gyda thair ystafell wely.
Dywedodd y Cynghorydd Iain McIntosh, Aelod y Cabinet ar faterion Tai, Cynllunio ac Adfywio Economaidd: "Rwyf wrth fy modd bod y datblygiad tai arloesol hwn bron wedi'i gwblhau.
"Mae'r tai'n cael eu hadeiladu i safon ynni isel dros ben Passivhaus. Bydd hwn yn helpu i dorri allyriadau carbon ac yn golygu y bydd gan denantiaid filiau ynni is.
"Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd gwirioneddol gyda'i darged uchelgeisiol o gyflenwi 250 o dai newydd erbyn 2025 a bydd y cynllun hwn yn cyfrannu at y nod hwnnw. Mae'r cynllun hefyd wedi rhoi hwb i'r economi leol gan fod y gwaith wedi cefnogi isgontractwyr a'r gadwyn gyflenwi leol."
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Pave Aways Steven Owen: "Mae wedi bod yn fraint cael cyflenwi'r prosiect arloesol hwn. Mae'r datblygiad yn gosod safonau newydd ar gyfer tai cymdeithasol ym Mhowys a thu hwnt a bydd yn codi'r safon ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.
"Dyma'r ffordd ymlaen ar gyfer tai newydd heb os. Mae'n gam pwysig ymlaen wrth inni fynd i'r afael â materion newid yn yr hinsawdd a thlodi tanwydd. O safbwynt y diwydiant, mae wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr i'n tîm a'n his-gontractwyr, sydd wedi dod â sgiliau newydd i'r rhanbarth."
Mae'r cynllun hefyd wedi dod â buddion ychwanegol i Bowys gyda mwy na £1.1m yn cael ei wario'n lleol, 10,500 o oriau gwaith ar y safle a 4,900 o oriau'n cael eu treulio ar brentisiaid ac amser hyfforddi trwy'i weithwyr a'r gadwyn gyflenwi.
Dywedodd Steven: "Un o'n blaenoriaethau yw sicrhau y bydd effeithiau'r prosiect yn fwy pellgyrhaeddol na rhai economaidd yn unig. Mae cyflenwi'r tai newydd yma wedi dod â llawer o fuddion i gymuned y Canolbarth a bydd ei etifeddiaeth yn para. Rhai o'r sgil effeithiau a welwyd o ganlyniad i'r prosiect oedd sgiliau newydd yn cael eu dysgu, hyfforddiant yn cael ei ddarparu a chefnogaeth i grwpiau cymunedol."