Egwyl ardrethi busnes yn parhau i fusnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden

1 Ebrill 2021
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden cymwys ym Mhowys yn elwa ar ymestyn cynllun sy'n golygu nad oes rhaid iddynt dalu ardrethi busnes o fis Ebrill ymlaen.
Ni fydd rhaid i fusnesau yn y sectorau hyn gyda gwerth ardrethol o lai na £500,000 dalu ardrethi o gwbl am flwyddyn arall, o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2022.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad i'r cynllun yng Nghymru i gefnogi busnesau i adfer yn y tymor hir wedi effeithiau economaidd y coronafeirws.
Dywedodd Jane Thomas, Pennaeth Cyllid gyda Chyngor Sir Powys: "Rydym newydd anfon biliau ardrethi ar gyfer blwyddyn ariannol newydd 2021/22 ac rydym wedi cynnwys y gostyngiad ar gyfer busnesau cymwys.
"At ei gilydd bydd 1,380 o fusnesau ledled Powys yn elwa ar y gostyngiad mewn ardrethi busnes sy'n dod yn £11.4m mewn gostyngiadau.
"Mae'r gefnogaeth hon ar ben y miliynau o bunnoedd mewn grantiau busnes y mae'r cyngor yn parhau i'w talu.
"Buodd y grantiau hyn yn newydd i'w groesawu mewn cyfrifon banc ac ry'n ni'n gobeithio y bydd busnesau'n falch o weld eu bil ardrethi gostyngol pan ddaw."
Efallai y bydd rhai busnesau'n dewis peidio cael y gostyngiad mewn ardrethi ar gyfer 2021/22 a gallan nhw wneud hyn drwy gysylltu â Thîm Ardrethi Busnes y Cyngor revenues@powys.gov.uk