Cynllun Setliad yr UE - 50 niwrnod ar ôl i wneud cais

EUSS Cym

10 Mai 2021

EUSS CymDdydd Mawrth, 11 Mai, byddwn yn nodi 50 niwrnod hyd nes y dyddiad cau ar 30 Mehefin, 2021 i wneud ceisiadau ar gyfer Cynllun Setliad yr UE.

Mae'r garreg filltir hon yn gyfle gwych i dynnu sylw holl ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir sy'n byw yn y DU at y dyddiad cau sy'n prysur agosáu.

Dylai holl ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ac aelodau o'u teuluoedd sydd wedi bod yn preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, wneud cais nawr fel eu bod yn gallu parhau i weithio, i astudio ac i gael gofal iechyd am ddim a buddion yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021.

Am gymorth gyda'ch cais ewch http://www.eusswales.com/

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu