EWCH YN WYRDD gyda bilio di-bapur ar gyfer Treth y Cyngor a Threthi Busnes

Read more about Gweld yr hysbysiadau llawn

Y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn croesawu awdur llwyddiannus ar ddigwyddiad ar-lein

PHOTO BY: Charlotte Murphy

13 Hydref 2021

PHOTO BY: Charlotte MurphyBydd Lesley Pearse, awdur llyfrau megis 'Liar' a 'You'll Never See Me Again' yn ymuno â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys i drafod ei llyfr diweddaraf 'Suspects'.

Bydd hwn yn digwydd ar-lein dros Zoom, nos Fercher 20 Hydref 2021 am 7.30 pm a bydd am ddim.

Dywedodd yr Aelod Portffolio, Pobl Ifanc, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Rachel Powell: "Mae'n wych gweld ein gwasanaeth llyfrgelloedd yn trefnu digwyddiadau fel hyn ac mae'n braf bod yn rhan ohono.  Mae cael awdur rhyngwladol o fri fel Lesley Pearse yn ymuno â ni yn gaffaeliad mawr ac rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o'n trigolion yn ymuno â ni."

I gofrestru ar gyfer Sgwrs â Lesley Pearse, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/a-conversation-with-lesley-pearse-sgwrs-gyda-lesley-pearse-tickets-181125129137

Digwyddiad uniaith Saesneg fydd hwn.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu