Pwysau ar draws system Gofal Powys

16 Rhagfyr 2021

Ar hyn o bryd, mae galw eithriadol o uchel ar wasanaethau gofal ledled Powys a rhagwelir y bydd y sefyllfa'n mynd yn fwy anodd ei rheoli wrth i ni symud yn ddyfnach i'r gaeaf.
Dywedodd Ali Bulman, y Cyfarwyddwr Gweithredol dros Bobl a Datblygu Sefydliadol: "Rydym eisoes yn profi oedi wrth ddarparu gwasanaethau gofal i'r trigolion hynny sydd eu hangen, a gwyddom y gallai hyn effeithio ar les pobl, gan arwain o bosibl at bobl yn datblygu mwy o anghenion am ofal a chymorth.
"Ar hyn o bryd, mae'n dod yn fwyfwy anodd trosglwyddo trigolion Powys allan o'r ysbyty ac yn ôl adref pan fyddant yn barod i adael. Mae hyn yn creu prinder sylweddol o welyau ac mae ambiwlansys yn gorfod aros wrth "ddrws ffrynt" ysbytai o ganlyniad. Mae hyn yn golygu nad yw parafeddygon yn gallu ymateb mor gyflym ag y byddant fel arfer i alwadau eraill 999 yn y gymuned.
"Mae'r Cyngor Sir yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi pobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Rydym wedi cynyddu nifer y staff yn ein gwasanaethau ysbyty a darparwyr fel y gallwn ddeall yn gyflym y gofal tymor byr sydd ei angen ar bobl pan fyddant yn gadael yr ysbyty.
"Nid oes digon o ofal yn y cartref i ateb y galw, fodd bynnag, felly rydym hefyd yn gweithio i gynnig mathau eraill o gymorth lle bynnag y gallwn fel mesur tymor byr. Mae'r sefyllfa ddigynsail hon yn gofyn i ni i gydweithio mewn partneriaeth, ac mae'r bartneriaeth honno'n cynnwys teuluoedd Powys.
"Os oes gennych berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy'n ddigon da i fynd adref ond sy'n aros i gael ei ryddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch eu helpu i gyrraedd adref yn gyflymach os ydych chi a'ch teulu mewn sefyllfa i'w cefnogi gartref. Siaradwch â'r staff os yw hyn yn rhywbeth y gallwch chi helpu gydag ef."
"Efallai y byddwn hefyd yn cynnig arhosiad dros dro mewn lleoliad gofal preswyl neu nyrsio i'ch perthnasau neu anwyliaid tra byddwn yn dod o hyd i'r cymorth angenrheidiol yn y cartref. Gwyddom nad dyma'r opsiwn delfrydol bob amser ond mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn well i'n trigolion, gan leihau'r siawns o gael heintiau mewn ysbytai a cholli annibyniaeth. Mae angen i ni hefyd wneud popeth o fewn ein gallu i ryddhau gwelyau ysbyty i'r rhai ag anghenion gofal brys.
"Bydd eich cefnogaeth nid yn unig yn helpu eich anwyliaid; bydd hefyd yn gwneud llawer i gefnogi'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol," ychwanegodd.