Cabinet yn cytuno i beidio â bwrw ymlaen ag ymgynghoriadau ar gau ysgolion

21 Rhagfyr 2021

Mae Cyngor Sir Powys am ad-drefnu a rhesymoli'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn y sir fel rhan o'i Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet i ddechrau'r broses statudol i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith.
Cytunodd y Cabinet hefyd i ddechrau datblygu achos cyfiawnhad busnes ar gyfer estyniad newydd i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid a dechrau'r broses statudol i wneud newid rheoledig i gael capasiti ychwanegol o 90 lle yn yr ysgol ar ôl cwblhau'r estyniad newydd.
Heddiw (dydd Mawrth, 21 Rhagfyr), clywodd y Cabinet fod astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar hyfywedd ymestyn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid wedi codi pryderon ynghylch a oedd estyniad yn ymarferol ar y safle presennol.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo: "Mae'n amlwg o ganfyddiadau'r astudiaeth ddichonoldeb a'r achos cyfiawnhad busnes nad ydym yn gallu datblygu estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid.
"Oherwydd y canfyddiadau hyn, rwy'n argymhell i'r Cabinet i beidio â bwrw ymlaen â'r estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid ac i beidio â bwrw ymlaen a'r ymgynghoriad arfaethedig ar gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith.
""Argymhellais hefyd eu bod yn cyfarwyddo'r Tîm Trawsnewid Addysg i ddod â chynigion eraill ar gyfer Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith yn ddi-oed."
I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/trawsnewidaddysg