Rhai dyddiau ar ôl i roi barn ar gynlluniau addysg uchelgeisiol canolbarth Powys

17 Ionawr 2022

Mae Cyngor Sir Powys am fynd i'r afael â materion model gweithredu presennol Ysgol Calon Cymru, ysgol uwchradd ddwy ffrwd sy'n gweithredu ar draws dau gampws. Lleolir y campysau yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
Ym mis Medi 2020, ystyriodd y Cabinet Achos Amlinellol Strategol a nododd y ffordd ddewisol ymlaen a allai fynd i'r afael â'r materion hyn, sef:
- Campws cyfrwng Saesneg 11-18 newydd yn Llandrindod; a
- Campws newydd/wedi'i ail-lunio 4-18 cyfrwng Cymraeg yn Llanfair-ym-Muallt.
Fis diwethaf (Rhagfyr), lansiodd y cyngor holiadur i helpu'r cyngor i ddeall barn pobl am y ffordd ymlaen a ffafrir, gan roi cyfle i ddysgwyr, rhieni, llywodraethwyr a staff ysgolion gyfrannu at ddatblygu'r weledigaeth strategol ar gyfer trawsnewid addysg yn yr ardal.
Ceir adran yn yr holiadur sy'n gofyn am ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Mae darparu amgylcheddau dysgu o safon yn un o amcanion ein Gweledigaeth 2025 a bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030 yn ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.
"Rydym am wella hawl a phrofiad dysgwyr yn Ysgol Calon Cymru trwy ddatblygu cyfleusterau diweddaraf yr 21ain Ganrif yn Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt, yn ogystal â sefydlu ysgol bob oed cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, bydd hyn yn gofyn am swm mawr o fuddsoddiad cyfalaf a rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn.
"Mae Ysgol Calon Cymru ar daith wella, ac er iddi wneud llawer iawn o gynnydd, daeth yn amlwg bod model dau safle'r ysgol yn cyfyngu ar ei gallu i barhau i dyfu a datblygu.
"Mae cyflwr campws Llandrindod yn benodol yn wael iawn. Mae angen gwella campws Llanfair-ym-Muallt hefyd ac mae angen gwella'r hawl a'r profiad dysgu'n sylweddol i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg ac ehangu'r ddarpariaeth gyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd.
"Credwn y bydd y ffordd ddewisol ymlaen i Ysgol Calon Cymru'n mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae hon yn rhaglen newid gymhleth ar raddfa fawr gyda buddsoddiad sylweddol.
"Rydym am sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn gallu cyfrannu at ddatblygu'r cynlluniau hyn ac rwy'n eu hannog i gymryd rhan drwy lenwi'r holiadur hwn."
I gymryd rhan yn yr holiadur, ewch i www.dweudeichdweudpowys.cymru/ysgol-calon-cymru
Mae copïau papur ar gael trwy gysylltu â'r Tîm Trawsnewid Addysg drwy e-bost school.organisation@powys.gov.uk neu drwy ffonio 01597 826618.
Mae croeso i chi anfon sylwadau ysgrifenedig hefyd at y Tîm Trawsnewid Addysg drwy e-bost i school.organisation@powys.gov.uk neu gyda throad y post at y Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG.
Rhaid cyflwyno ymatebion erbyn dydd Mercher, 26 Ionawr 2022.
I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg.