Profion COVID-19 ar gael yn fuan i'w casglu o Ganolfannau Freedom Leisure

18 Ionawr 2022

O ddydd Gwener 21 Ionawr, bydd trigolion Powys yn gallu casglu pecynnau profion llif unffordd o'u Canolfan Freedom Leisure leol. Bydd hyn yn ychwanegu at y rhestr o lyfrgelloedd Powys sydd hefyd yn gweithredu fel mannau casglu lle mae digonedd o becynnau ar gael ar hyn o bryd.
I ddod o hyd i'ch man casglu agosaf, ewch i https://maps.test-and-trace.nhs.uk/
Nid oes gan tua un o bob tri o bobl sydd â coronafeirws symptomau ond gallant heintio eraill o hyd.
Mae cael eich profi'n rheolaidd yn un ffordd o wybod a yw'r feirws gennych. Pan fydd pobl yn profi'n bositif ac yn hunanynysu, maen nhw'n helpu i dorri'r gadwyn drosglwyddo ac yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws.
Nid yw profion llif unffordd ond ar gael ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau coronafeirws. Os ydych yn un mlwydd ar ddeg oed neu hŷn rydym yn eich annog i gymryd profion yn rheolaidd os nad oes gennych symptomau COVID-19.
Mae'r Cyngor hefyd yn annog preswylwyr i gymryd Prawf Llif Unffordd yn yr achosion isod:
- os ydych yn mynd i fod mewn sefyllfaoedd risg uwch gan gynnwys treulio amser mewn mannau gorlawn neu gyfyng
- cyn i chi ymweld â phobl sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol o COVID-19
- os ydych yn teithio i ardaloedd eraill o Gymru neu'r DU
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Baynham, Aelod y Cabinet ar faterion Llywodraethu Corfforaethol a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae sicrhau bod profion ar gael yn eang i'n trigolion eu casglu yn hanfodol i helpu i gadw Powys yn ddiogel.
"Mae'n wych o beth ein bod yn cydweithio â Freedom Leisure a thrwy hyn gall ein trigolion gasglu pecynnau Profion Llif Unffordd o fwy byth o safleoedd lleol. Hoffem ddiolch iddynt am eu cymorth."
Ychwanegodd Gwyn Owen, Rheolwr Ardal, Freedom Leisure Powys "Rydym yn falch dros ben o fod yn cefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Cyngor Sir Powys a GIG Cymru gan ddosbarthu pecynnau prawf llif unffordd a sicrhau eu bod ar gael ar draws ein 13 canolfan chwaraeon a hamdden ym Mhowys".