Sesiynau Gweithgareddau Gwyliau Hanner Tymor Plant Powys

21 Ionawr 2022

Ar ôl sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru mae Cyngor Sir Powys, ar y cyd â Freedom Leisure, wedi trefnu sesiynau gweithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc 4 i 17 oed mewn wyth canolfan ar draws y sir.
Cynhelir y sesiynau rhwng dydd Llun 21 Chwefror a dydd Gwener 25 Chwefror 2022 yn y lleoliadau a'r amseroedd canlynol:
- Canolfan Hamdden Aberhonddu: Dydd Llun i ddydd Gwener (10am-12pm a 1:30pm - 3:30pm)
- Canolfan Hamdden Bro Ddyfi: Dydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener (10:30am-12:30pm a 1:30pm - 3:30pm)
- Canolfan Hamdden Llanfair-ym-Muallt: Dydd Llun i ddydd Gwener (1:30pm - 3:30pm)
- Canolfan Hamdden Rhaeadr Gwy: Dydd Llun i ddydd Gwener (10:30am-12:30pm)
- Canolfan Y Fflash, Y Trallwng: Dydd Llun i Ddydd Gwener (10am-12pm a 1pm - 3pm)
- Canolfan Hamdden Llandrindod: Dydd Llun i ddydd Gwener (10am-12pm)
- Canolfan Hamdden Ystradgynlais: Dydd Llun i ddydd Gwener (10am-12pm)
- Canolfan Hamdden Llanidloes: Dydd Llun - Dydd Iau (10:30am - 12:30pm)
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet ar faterion Gwasanaethau Plant: "Yn dilyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, a'n partneriaeth â Freedom Leisure, rydym wrth ein bodd o fedru darparu gweithgareddau i blant mewn lleoliadau ar draws y sir yr hanner tymor hwn.
"Wedi llwyddiant ein sesiynau gwyliau blaenorol, rwy'n siŵr y bydd hyn yn boblogaidd iawn a bydd plant a phobl ifanc ledled y sir yn mwynhau."
Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a byddant yn cael eu blaenoriaethu a'u dyrannu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd y cofrestru'n cau ddydd Gwener 11 Chwefror 2022.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi roi galwad i ni ar 01597 826399 neu anfon e-bost holiday.activities@powys.gov.uk.