Grant Adfer Cymunedol yn sgil Covid

27 Ionawr 2022

Dan adain Cyngor Sir Powys, nod y Grant Adfer Cymunedol yw helpu grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol sy'n helpu pobl a chymunedau i ymateb i'r pandemig.
Y bwriad yw ceisio ailgodi a helpu sefydliadau i ddatblygu cynlluniau a gweithgareddau hyblyg ac ymatebol i ddod yn gryfach ac yn ariannol-gynaliadwy i'r dyfodol.
Mae grwpiau'r trydydd sector wedi gallu gwneud cais am arian cyfalaf a refeniw ac mae 56 o brosiectau ar draws y sir wedi derbyn bron i £500,000.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Mae'n braf gallu helpu sefydliadau cymunedol gyda nifer o fentrau gan gynnwys prosiectau iechyd meddwl a lles er mwyn mynd i'r afael â phroblemau sydd wedi deillio o'r pandemig.
"Rydym wedi cefnogi sefydliadau lle effeithiwyd ar eu haelodaeth er mwyn eu helpu i ailgodi. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r angen am weithgareddau awyr agored ac mae nifer o'n mannau agored wedi derbyn arian.
"Mae'r cyngor wedi helpu ein hadeiladau cymunedol i allu agor mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy, er mwyn croesawu nôl trigolion cymunedau Powys."
Mae'r gronfa bellach wedi cau ond bydd yn ailagor yn y flwyddyn ariannol newydd.