Gallwch gofrestru nawr ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd 2022

7 Chwefror 2022

Bydd trigolion yn gallu cofrestru am y gwasanaeth hwn ar gyfer tymor 2022 trwy fynd i Casglu gwastraff o'r ardd neu alw 01597 827465.
Y gost am y flwyddyn fydd £39 sy'n cynnwys llogi bin 240 litr ar olwynion a chasglu eich gwastraff o'r ardd bob pythefnos rhwng 28 Chwefror a 2 Rhagfyr. Gydag ugain o gasgliadau posibl, mae hynny'n llai na £2 y bin - ei gasglu a'i ailgylchu. Mae bin 120 litr ar gael yn rhatach i drigolion sydd â gerddi bach, neu sachau gwastraff o'r ardd y gellir eu compostio i'r rhai ohonoch sy'n gosod eich sbwriel arferol na ellir ei ailgylchu mewn sachau porffor.
Yn fuan iawn, byddwn yn cysylltu â thrigolion a ddefnyddiodd y gwasanaeth yn 2021 i'w hatgoffa i gofrestru eto am dymor arall. Pan fyddwch wedi cofrestru ar gyfer tymor 2022, byddwch yn derbyn sticer i'w osod ar y bin gwyrdd ar olwynion i ddangos i'r criw eich bod wedi cofrestru am 2022.
Os ydych chi'n newydd i'r gwasanaeth, byddwch yn derbyn bin gwyrdd newydd o fewn 10 diwrnod gwaith, felly ewch ati'n gynnar i gofrestru er mwyn elwa o'r gwasanaeth a fydd yn dechrau ar ddiwedd mis Chwefror.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet - Ailgylchu a Gwastraff: "Mae wedi bod yn aeaf arall anodd i ni gyd ac mae pawb yn edrych ymlaen at weld y Gwanwyn i godi ein calonnau ni. Pan na fydd y nosweithiau mor hir a'r tywydd yn troi ychydig yn fwynach, bydd nifer ohonom yn awyddus i fynd allan i'r ardd unwaith eto.
"Am llai na £2 y casgliad os bydd pobl yn cofrestru nawr, mae'n golygu y gallwch fanteisio ar ffordd hawdd, glân a syml o gael gwared ar wastraff o'r ardd, gan wybod y bydd yn cael ei ailgylchu a'i droi'n gompost.
"Nid yn unig yn bydd yn golygu na fydd rhaid cario'r cyfan yn y car a'i wneud yn fudr, ond mae hefyd yn ffordd gynaliadwy a rhad o ailgylchu eich gwastraff o'r ardd."
Bydd trigolion sydd ddim am fanteisio ar y gwasanaeth yn gallu parhau i gompostio eu gwastraff adref neu ei gludo i un o'r pump canolfan ailgylchu ym Mhowys.