Cylch derbyn i ddarpariaeth cyn ysgol yn agor ym mis Mawrth

8 Chwefror 2022

Ar ddydd Mawrth, 1 Mawrth, bydd rhieni neu ofalwyr plant a anwyd rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020 yn gallu gwneud cais am le mewn lleoliad blynyddoedd cynnar yn barod i ddechrau yn 2023.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Iau, 31 Mawrth 2022.
Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r cyngor i sicrhau fod pob plentyn ym Mhowys yn cael mynediad at addysg blynyddoedd cynnar, rhan amser am ddim o ddechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed.
Bydd pob plentyn cymwys yn derbyn hyd at 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar wedi'i ariannu os byddan nhw'n mynychu lleoliad addysg cyn oed ysgol cymeradwy.
Dim ond trwy fynychu lleoliad addysg cyn oed ysgol cymeradwy y bydd plant yn gallu derbyn addysg ran-amser am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo: "Dylai rhieni a gofalwyr lenwi'r cais hwn cyn gynted ag y bydd y cylch derbyn yn agor er mwyn sicrhau lle i'r plentyn yn y lleoliad cyn oed ysgol / blynyddoedd cynnar o'u dewis y flwyddyn nesaf.
"Os na fyddwch yn anfon cais mewn da bryd, gall olygu na fydd lle i'ch plentyn yn y lleoliad o'ch dewis."
Bydd angen i rieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein a gallwch ddod o hyd i'r ffurflen yma - Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu'n cael problemau llenwi neu anfon y cais, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 01597 826477 neu dros e-bost preschooladmissions@powys.gov.uk