Adolygu'r Rhaglen Trawsnewid Ysgolion

9 Chwefror 2022

Cyflwynwyd canfyddiadau Adolygiad Gateway Llywodraeth Cymru gydag argymhellion i Gabinet y Cyngor dydd Mawrth (8 Chwefror).
Bu'r adolygiad annibynnol yn asesu canlyniadau ac amcanion strategol y rhaglen gan roi sgôr oren gwyrdd sy'n golygu ei fod yn debygol y bydd yn cael ei gyflenwi, ond bod angen rhoi sylw cyson i sicrhau na fydd unrhyw risgiau'n bygwth y prosiect.
Defnyddir adolygiadau sicrwydd Gateway yn eang ar draws Rhaglenni a Phrosiectau sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig gan ddefnyddio asesiad o hyder yn ei gyflenwi ar adegau allweddol - dim ond 8% o brosiectau'r sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru a dderbyniodd sgôr oren gwyrdd yn 2020.
Yn dilyn y gwaith, fe wnaeth y tîm adolygu sawl argymhelliad sydd wedi'u derbyn gan uwch-swyddog adrodd y rhaglen ac a gytunwyd gan y Cabinet fore dydd Mawrth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo, y Cynghorydd Phyl Davies: "Rydym am ddiolch i'r tîm adolygu am eu hasesiad trwyadl ac adborth positif ar waith rhaglen uchelgeisiol Ysgolion yr 21ain Ganrif.
"Er roedd gan y Cabinet bob hyder yn null strategol y rhaglen a'i heffaith bositif ar addysg ym Mhowys, mae'n braf gweld y gwaith yn cael ei gydnabod gan adolygiad annibynnol sy'n uchel ei barch.
"Rydym yn croesawu'r ffaith eu bod yn cydnabod yr arweinyddiaeth gref sydd gennym a'r dull strategol o weithio, ond nid ydym yn hunanfodlon gan werthfawrogi bod ffordd bell i fynd a bod rhaid i ni barhau â'n ffocws os ydym i wireddu'r amcanion.
"Mae'r Cabinet wedi derbyn canfyddiadau'r adroddiad gan gytuno ar yr argymhellion," ychwanegodd.
Argymhellion yr Adroddiad
- Pennu'r opsiynau ariannol ar gyfer arian cyfatebol i'r rhaglen uwch, gan gynnwys y datganiad Gwerth am Arian o fuddsoddi yn y dyfodol a chostau gwneud dim, fel bod pawb yn deall yr opsiynau sydd ar gael.
- Pwysleisio'r Weledigaeth o Drawsnewid a Gwella a gosod Ysgolion yr 21ain Ganrif fel rhan annatod o'r stori honno.
- Datblygu ffordd o fapio ar draws allbynnau/canlyniadau/buddion sy'n datgan yn glir pwy sy'n gyfrifol am beth a sut fydd y dibynyddion yn cael eu rheoli i sicrhau fod y buddion yn cael eu gwireddu.
- Gwahaniaethu'r lefelau llywodraethu a'r aelodaeth sydd eu hangen ar gyfer pob haen o'r portffolio trawsnewid, Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a'r prosiect adeiladu.
- Datblygu trywydd i helpu i gynllunio adnoddau posibl a'r cyllid sydd ei angen wrth weithredu Band B.