Dirwy am fethu ynysu ar ôl dychwelyd o wyliau yn Sbaen

10 Chwefror 2022

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi'r cyngor ar ôl i breswylydd o ogledd Powys gael ei erlyn am fethu ag ynysu ar ôl dychwelyd i'r DU ar ôl gwyliau yn Sbaen fis Awst diwethaf.
Ar yr adeg y dychwelodd y preswylydd o'i wyliau, roedd Sbaen yn wlad a oedd wedi'i rhestru ar y rhestr Ambr ac roedd deddfwriaeth ar y pryd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt dreulio cyfnod cwarantîn gartref ar ôl dychwelyd am 10 diwrnod yn unol ag Adran 7 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
Derbyniodd y preswylydd, a wrthododd hunanynysu, hysbysiad cosb benodedig gan Heddlu Dyfed Powys ond ni wnaeth ei dalu.
Cafodd y preswylydd ei erlyn oherwydd iddo fethu â thalu'r hysbysiad cosb benodedig fel rhan o'r camau cydweithredol a gymerwyd gan Gyngor Sir Powys, Heddlu Dyfed Powys a'r Tîm Teithwyr sy'n Cyrraedd wedi'i leoli yng Nghaerdydd.
Plediodd y preswylydd yn euog yn Llysoedd y Gyfraith Llanelli ddydd Gwener, 4 Chwefror a chafodd ddirwy o £1,600 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £90 a gordal o £160.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Baynham, yr Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Llywodraethu a Rheoleiddio Corfforaethol: "Mae gwaith y swyddogion ac eraill, sy'n ymwneud â chyflawni'r swyddogaethau, o dan reoliadau Covid yn bwysig iawn er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Nid yw Covid wedi diflannu.
"Mae'r achos hwn yn dangos y pwysigrwydd o feddwl am bobl eraill ac ynysu yn ôl yr angen i ddiogelu pob aelod o'r cyhoedd."