Newidiadau Covid

11 Chwefror 2022

Mae nifer yr achosion yn y sir wedi gostwng o'r cyfraddau uchel iawn a welwyd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd gyda'r don Omicron ond maent yn parhau i fod yn uwch na 300 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth gyda mannau sy'n achosi problemau fel Aberhonddu wedi'u cofrestru.
Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd: "Er bod nifer yr achosion yn y sir yn gostwng ac rydym bellach yn is na chyfartaledd Cymru, mae gennym nifer sylweddol o heintiau newydd bob dydd o hyd. Aberhonddu yn benodol sydd â'r nifer uchaf o achosion yng Nghymru ar hyn o bryd. Rwy'n gofyn i breswylwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth ac i ddilyn y cyngor yr ydym i gyd wedi arfer ag ef dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynghylch defnyddio masgiau wyneb, cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, a sicrhau eu bod wedi'u brechu'n llawn."
Cwblhaodd Cymru'r broses o symud o Rhybudd Covid Lefel Lefel Dau i Sero y mis diwethaf a bydd rhagor o gyfyngiadau yn cael eu codi ymhellach ym mis Chwefror yn dilyn adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Bydd y newidiadau'n cynnwys llacio'r angen i ddangos Pás GIG i fynd i ddigwyddiadau ac yn nes ymlaen y gofyn i wisgo gorchudd wyneb.
Newidiadau i'w cyflwyno o 18 Chwefror
- ddydd Gwener nesaf (18 Chwefror) - ni fydd yn ofyniad cyfreithiol mwyach i ddangos Pás Covid yng Nghymru i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do ac awyr agored, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd,
- Ond mae lleoliadau a digwyddiadau yn gallu parhau i ddefnyddio Pás Covid os ydynt yn dymuno.
Newidiadau i'w cyflwyno o 28 Chwefror
- O 28 Chwefror, bydd Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y gofyn i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ar wahân i fannau manwerthu, ar gludiant cyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.
- Ni fydd yn rhaid i oedolion wisgo eu goruchuddion wyneb pan fyddant yn rhyngweithio â babanod a phlant bach mewn grwpiau babanod a phlant bach.
- Bydd hunan-ynysu yn parhau i fod yn ffordd bwysig o dorri'r gadwyn o drosglwyddo'r feirws ac atal mwy o bobl rhag cael eu heintio.
Cadw Cymru'n ddiogel:
- cofiwch i gael eich dau bigiad a phan fyddwch yn derbyn eich gwahoddiad, ewch i gael eich pigiad atgyfnerthu
- cadwch eich cysylltiadau'n isel
- mae'r awyr agored yn fwy diogel na dan do
- gwnewch brawf llif unffordd cyn gweld eraill
- gwnewch brawf llif unffordd os nad oes gennych symptomau a'ch bod dros 11 oed.
- os oes gennych symptomau, cofiwch hunan-ynysu ac ewch am brawf PCR