Gwaith i ddechrau ar Lwybr Teithio Llesol Treowen

14 Chwefror 2022

Yn dilyn ymgynghori blaenorol ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, bydd y gwaith hwn yn gwella'r cyfleusterau cerdded a seiclo ar ochr ogleddol Heol Treowen o Ysgol Gynradd Treowen tua Ffordd Dolfor.
Bydd y palmant yn cael ei ledu i ddod yn lwybr i'w rannu gan feicwyr a cherddwyr. Bydd hyn hefyd yn gwella wyneb y llwybr presennol ac yn gwella diogelwch i bawb, yn enwedig teuluoedd a disgyblion sy'n mynd i, ac o'r ysgol. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, dyma gam cyntaf cynllun ehangach a fydd yn cysylltu â llwybrau teithio llesol eraill yn y dref.
"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru'n genedl sy'n cerdded a seiclo," esboniodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.
"Yn y bôn, mae hyn yn golygu ein bod yn ceisio ei wneud yn bosibl i ni gyd wneud teithiau byr megis mynd i'r gwaith, ysgol neu siopau lleol trwy gerdded neu seiclo.
"Ar ôl ymgynghori a datblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, mae'n gyffrous gweld cynllun teithio llesol arall yn Y Drenewydd yn dwyn ffrwyth."