Gwaith i adnewyddu'r Ganolfan Deuluol yn Y Trallwng

15 Chwefror 2022

Bydd y Ganolfan yn "siop un stop" yn cynnig gwasanaethau i helpu gydag anghenion teuluoedd o ran addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd. Bydd y ganolfan yn cynnal gweithgareddau megis grwpiau rhieni a phlant bach, tylino babanod, gwybodaeth, rhaglenni Hyfforddiant Rhianta'r Blynyddoedd Rhyfeddol, cyngor ar iechyd, cymorth a chwnsela i deuluoedd.
Ariennir y gwaith o adnewyddu'r adeilad, sydd yng nghalon dalgylch Dechrau'n Deg, trwy arian cyfalaf Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru. Pave Aways Building Contractors fydd yn gwneud y gwaith sydd i ddechrau fis nesaf. Bydd y cytundeb yn cael ei reoli gan dîm o swyddfa'r Drenewydd a bydd yn defnyddio is-gontractwyr a chyflenwyr yn ei gadwyn gyflenwi o fewn 30 milltir o'r Trallwng.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant, y Cynghorydd Rachel Powell: "Bydd y ganolfan newydd yn cynnig un man penodol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd gael cymorth o amrywiaeth o wasanaethau cymorth cynnar ac ymyrraeth - i gyd ar yr un safle. Bydd y gwasanaethau hyn yn cydweithio i ddiwallu anghenion y teulu.
"Yng nghalon y gymuned, mae'r safle'n gyfle i gael gwasanaethau mewn un lle. Bydd yn cynnig gofal plant ynghyd â lle cymunedol a swyddfeydd.
"Bydd teuluoedd o'r Trallwng a'r cyffiniau'n gallu elwa o ddull integredig a chydlynol at wasanaethau cymorth cynnar ac i Ddechrau'n Deg gynnig darpariaeth deg ar draws Gogledd Powys.
Bydd y Ganolfan yn cynnig clinigau taro heibio, grwpiau babanod, cyrsiau hyfforddi mewnol ac allanol, gweithgareddau gyda theuluoedd, clybiau ieuenctid, cyswllt dan oruchwyliaeth a grwpiau cymorth er mwyn gweithio gyda phoblogaeth o bob oed."
O ganlyniad i'r gwaith adnewyddu, bydd modd ehangu'r ddarpariaeth feithrin i deuluoedd o'r safle (ar hyn o bryd yn Ddechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen) trwy gynnig 30 awr yn ychwanegol o ofal plant.
Mwy o wybodaeth i ddilyn i deuluoedd lleol fel bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen, a sut y bydd modd elwa o'r ddarpariaeth gofal plant. Gall teuluoedd ddilyn @Welshpool0-5's neu @Powys Flying Start/Dechrau'n Deg Powys ar Facebook i gael y diweddaraf.