Ysgolion ar gau

17 Chwefror 2022

Yn ystod y dydd, gallai'r gwyntoedd hynny gyrraedd rhwng 60 - 70 milltir yr awr, gydag hyrddiadau cryfach fyth. Mae gwybodaeth wedi'n cyrraedd gan sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru bod yr amodau o ganlyniad i'r tywydd yn debygol o achosi difrod sylweddol i adeiladau, gan wneud teithio'n beryglus.
Nid ydym am gymryd risgiau di-angen o ran diogelwch plant, pobl ifanc a staff. Bydd disgyblion yn medru parhau gyda'u dysgu ar lein, gydag ysgolion yn gosod tasgau pwrpasol ar gyfer 18.2.22.
Cadwch yn ddiogel os gwelwch yn dda.