Canolfan Ddydd Arlais

21 Chwefror 2022

Mae trosglwyddo safle Canolfan Ddydd Arlais yn Llandrindod i Wasanaethau Tai Cyngor Sir Powys oddi wrth Ofal Cymdeithasol i Oedolion yn cael ei ystyried gan y Cyngor.
Bydd Gwasanaethau Tai'r cyngor, a brynodd y tir wrth gefn y ganolfan ddydd bron ddwy flynedd yn ôl, yn dechrau gwaith i ddatblygu'r ddau safle i ddarparu hyd at ugain yn fwy o gartrefi fforddiadwy os caiff y trosglwyddo ei gymeradwyo.
Mae'r ganolfan ddydd wedi'i datgan fel diangen bellach ar gyfer y diben o ddarparu gwasanaethau gofal dydd. Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Tai wedi datblygu cyfleusterau gofal dydd eraill yng nghynllun pobl hŷn y cyngor yn Rhodfa Lant yn Llandrindod. Bydd y cyfleusterau hyn ar gael pan fydd rhagofalon Covid-19 yn caniatáu i wasanaethau ailagor yn ddiogel.
Dywedodd y Cyng. Myfanwy Alexander, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Tai: "Bydd trosglwyddo Arlais i'r Adran Dai yn galluogi'r Cyngor Sir Powys i ddarparu cartrefi mawr eu hangen i bobl leol."
Dywedodd y Cyng. Phyl Davies, Aelod o'r Cabinet dros Addysg ac Eiddo: "Rydym yn ymwybodol fod sefydliadau yn y dref sydd angen lle ar gyfer swyddfa a gweithgareddau. Fe fyddwn yn gweithio gyda sefydliadau i drafod eu hanghenion.
"Fodd bynnag, mae trawsnewid Canolfan Ddydd Arlais yn eiddo at ddibenion masnachol yn gofyn am fuddsoddiad arwyddocaol i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu angenrheidiol ynghyd â'r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol. Nid oes gennym y buddsoddiad cyfalaf i drawsnewid yr adeilad ar gyfer dibenion masnachol.
"Mae'r trosglwyddo arfaethedig hwn yn ateb positif a fydd yn darparu tai mawr eu hangen yn Llandrindod."