Sgamiwr yn gofyn am daliad o £100 dros y ffôn oddi wrth bensiynwr

21 Chwefror 2022

Dyma'r diweddaraf ymhlith sawl ymgais o dwyllo preswylwyr yn ariannol a ddaeth i sylw'r cyngor sir dros yr wythnosau diweddar.
Nid staff Cyngor Sir Powys sy'n gwneud y galwadau hyn ac ni ddylai unrhyw un sy'n cael galwad o'r fath roi unrhyw fanylion personol nac ariannol. Ac ni ddylech wneud unrhyw fath o daliad dros y ffôn.
Os ydych chi'n amau, mae'n bosibl i breswylwyr wirio gyda'r cyngor i weld a yw galwad am Dreth y Cyngor yn ddilys.
- Ffôn: 01597 827463 (oriau agor swyddfa 9am - 1pm Dydd Llun i ddydd Gwener)
- E-bost: revenues@powys.gov.uk
Os ydych yn derbyn galwad annisgwyl:
- Peidiwch â rhoi'ch manylion personol allan
- Peidiwch â datgelu eich manylion banc
- Peidiwch â dweud eich bod yn byw ar eich pen eich hun
Gallwch roi gwybod am ddwyll neu seibrdroseddu i Action Fraud ar-lein ar unrhyw adeg: https://www.actionfraud.police.uk/reporting-fraud-and-cyber-crime
Neu drwy ffonio 0300 123 2040, dydd Llun i ddydd Gwener, 8am - 8pm.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl neu risg o niwed di-oed ffoniwch 999.
Gall preswylwyr Powys sy'n dewis mynd yn ddi-bapur gyda Threth y Cyngor hefyd wirio statws eu cyfrif ar-lein ar unrhyw adeg. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiwn hwn ar gael ar wefan y cyngor: https://cy.powys.gov.uk/dibapur