Lefelau algâu gwyrddlas yn gostwng yn Llyn Clywedog

22 Chwefror 2022

Canfuwyd yr algâu yng ngronfa ddŵr Llyn Clywedog ger Llanidloes mis Tachwedd diwethaf ac arweiniodd at gyfyngu gweithgareddau yn y gronfa ddŵr, yn enwedig lle roedd trochi yn y dŵr yn debygol.
Bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro Cronfa Ddŵr Llyn Clywedog yn rheolaidd ers y gwelwyd yr algâu. Mae'r ddau sampl wythnosol olaf a gymerwyd o'r gronfa ddŵr yn is na'r trothwy rhybuddio.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi hysbysu perchnogion safleoedd Hafren Dyfrdwy bod y blŵm algâu gwyrddlas wedi gostwng.
Mae Hafren Dyfrdwy wedi rhoi gwybod i'r rhai sy'n gweithredu ar y dŵr (hwylio, chwaraeon dŵr a physgota), a'r tirfeddianwyr cyfagos ac ymwelwyr bod y lefelau algaidd wedi gostwng.
Mae'r crynhoad o algâu gwyrddlas yng ngronfa ddŵr Llyn Clywedog yn digwydd yn naturiol o bryd i'w gilydd yn ystod tywydd cynnes. Mae'n bosibl y gallai'r algâu gwyrddlas ddychwelyd eto.
- I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Sir Powys ar 01597 827 467.
- Os oes gennych unrhyw bryderon iechyd, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.
- I roi gwybod am unrhyw arwyddion pellach o algâu gwyrddlas, ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000, 24 awr y dydd.