Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

28 Chwefror 2022

Oeddech chi'n gwybod fod dyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Sir Powys, ynghyd â chynghorau eraill Cymru, i sicrhau fod pob preswyliwr yn gallu derbyn gwasanaethau yn y Gymraeg?
Rydym yn cofleidio'r Gymraeg ym mhopeth a wnawn, y mae'n rhan o bwy ydym ni a'r hyn yr ydym yn ei gynnig.
Rydym yn falch o fod yn gyngor dwyieithog ac rydym yn cyflwyno pob cyfathrebiad â phreswylwyr a staff yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ochr yn ochr â'r ffaith fod rhagor o bobl ifanc yn gallu siarad Cymraeg ym Mhowys, rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg ledled y sir, gan annog pobl i ddysgu a gwella eu sgiliau.
Beth am ychwanegu ychydig o frawddegau Cymraeg at eich dydd i ddathlu Gŵyl Ddewi? Cyfarchwch eich ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr yn y Gymraeg. Dyma rai brawddegau i ddechrau arni:
- S'mae / Shwmae! - Hi! How's things?
- Iawn - Fine
- Bore da - Good morning
- Prynhawn da - Good afternoon
- Hwyl - Bye
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet dros y Gymraeg: "Mae'r Gymraeg yn drysor y gallwn ni i gyd ei rhannu. Mae perseinedd hynafol yr iaith yn rhoi sain hudol iddi, a dyna pam ei bod yn ysbrydoli awduron fel Tolkein. Ond does dim rhaid i chi fod yn ellyll-ryfelwr i ddweud helo wrth eich cymdogion a gwneud ffrindiau newydd yn y Gymraeg. Dyma sut:'
Hoffech chi ddysgu Cymraeg neu ydych chi'n adnabod rhywun a hoffai? Gallwch ddod o hyd i gyrsiau blas am ddim ar-lein er mwyn dechrau yma
Am ragor o wybodaeth am sut y defnyddiwn y Gymraeg ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/11222/Iaith-Gymraeg