Y Cabinet i drafod achos amlinellol strategol ar gyfer ysgol gynradd newydd

2 Mawrth 2022

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol gynradd ddwy ffrwd newydd ar gost o £10.2m yn lle'r adeilad presennol yn Ysgol Gynradd Pontsenni, gyda lle i 150 o ddisgyblion.
Mae'r cyngor wedi llunio Achos Amlinellol Strategol i'r cynlluniau a fydd yn cael eu trafod gan y Cabinet ddydd Mawrth, 8 Mawrth.
Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu'r cyngor wireddu ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, sef strategaeth uchelgeisiol dros 10 mlynedd a gafodd ei chymeradwyo yn 2020.
Bydd y Cabinet yn cael clywed y bydd angen £10.2m i adeiladu'r ysgol newydd, gyda 65% o'r arian yn dod o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (hen Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif). Y cyngor fyddai'n ariannu'r 35% sy'n weddill.
Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r Achos Amlinellol Strategol, bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet dros Addysg: "Nid yw adeiladau presennol Ysgol Gynradd Pontsenni'n addas i ateb anghenion cwricwlwm yr 21ain Ganrif nac anghenion llesiant disgyblion.
"Fel rhan o Weledigaeth 2025, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o'r radd orau. Yn ein barn ni, nid yn unig y bydd y cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd newydd Pontsenni'n dangos yr ymrwymiad hwn ond byddwn yn darparu cyfleusterau haeddiannol i'r plant.
"Os bydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r Achos Amlinellol Strategol, bydd yn fuddsoddiad sylweddol arall yn ein seilwaith ysgolion."
Am fwy o wybodaeth ar Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg