Y Cabinet i glywed y diweddaraf ar Drawsnewid Ysgolion Llanfyllin

2 Mawrth 2022

Mae Cyngor Sir Powys am ad-drefnu darpariaeth addysg gynradd y sir fel rhan o'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
Ym mis Rhagfyr, gofynnodd y Cabinet i'r Tîm Trawsnewid Addysg lunio cynigion ar gyfer Ysgol Bro Cynllaith, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain erbyn mis Mawrth 2022 oherwydd y nifer isel o ddisgyblion a'r effaith y gallai hyn ei gael ar gynaliadwyedd yr ysgolion a'r cynnig i ddysgwyr.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad y Cabinet i beidio bwrw ymlaen gyda chynllun i adeiladu estyniad ar Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid yn dilyn astudiaeth dichonoldeb a gododd amheuon a fyddai estyniad yn ymarferol ar y safle presennol. Cytunodd y Cabinet hefyd i beidio bwrw ymlaen gyda'r bwriad i ymgynghori ar gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain ac Ysgol Bro Cynllaith.
Ar ddydd Mawrth 8 Mawrth, bydd y Cabinet yn cael clywed bod trafodaethau anffurfiol wedi dechrau gyda'r ysgolion i ddeall beth yw'r problemau a'r pwysau lleol ar yr ysgolion ynghyd â dechrau trafod opsiynau posibl all fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r ysgolion gan eu bod yn dair ysgol fach iawn o fewn ardal ddaearyddol agos, gyda dwy o'r ysgolion hynny eisoes yn gweithredu fel ffederasiwn ffurfiol.
Bydd y Cabinet hefyd yn cael clywed bod swyddogion wedi gallu gweld y problemau sylweddol o ran capasiti o fewn ystafelloedd dosbarth, y lleoliad blynyddoedd cynnar a thu allan i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal nawr ar sut i ddatrys y mater, gan gynnwys trafodaethau gyda rhanddeiliaid lleol ynghyd ag edrych ar safleoedd eraill posibl.
Fodd bynnag, bydd y Cabinet yn cael clywed na fu'n bosibl cyflwyno unrhyw gynigion newydd iddynt eu trafod.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo: "Oherwydd llwyth gwaith y swyddogion a'r angen i ganolbwyntio ar gynigion eraill i Drawsnewid Addysg sydd ymhellach ymlaen, ni fu'n bosibl cyflwyno cynigion newydd i'w trafod gan y Cabinet.
"Y bwriad yw dod â chynigion eraill gerbron y Cabinet nes ymlaen yn y flwyddyn."
Am fwy o wybodaeth ar Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg