Offer llaw wedi'u hailgylchu o Bowys yn cael defnydd newydd yn Affrica

3 Mawrth 2022

Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Powys a Grŵp Potter, mae Tools for Self Reliance Cymru (TFSR Cymru) wedi sefydlu cynllun ailddefnyddio yn Aberhonddu sy'n casglu offer ail-law a ailgylchir yn y Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff o'r Cartref gan drigolion Powys.
Yna mae'r offer yn cael eu casglu gan elusen a leolir yng Nghrughywel, sydd, gyda help gwirfoddolwyr medrus, yn adnewyddu'r eitemau a naill ai'n eu gwerthu, i godi arian mawr ei angen ar gyfer yr elusen, neu'n eu cyfrannu i grwpiau cymunedol ar lawr gwlad Affrica. Yn y 35 mlynedd diwethaf, mae TFSR Cymru wedi anfon mwy na miliwn o offer i grefftwyr a chrefftwragedd yng nghymunedau gwledig Affrica. Mae offer yn golygu gwaith, a'r cyfle i siapio eu dyfodol a gwella bywoliaeth.
"Gan gydfynd gyda'r amrywiaeth eang o eitemau sy'n cael eu hailgylchu yn y Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff o'r Cartref ym Mhowys, y cynllun ailddefnyddio hwn yw'r ffordd ddiweddaraf yn unig lle y gallwn helpu i ostwng, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o'n gwastraff ag sy'n bosibl."
"Rydym eisoes wedi cael nifer o ganolfannau ailddefnyddio ac atgyweirio o fewn y sir, ond mae'r cynllun penodol hwn gyda TFSR Cymru yn unigryw wrth ddarparu'r offer a chyfarpar sy'n angenrheidiol i gymunedau yn Affrica, gan sicrhau darpariaeth iddynt adeiladu ffordd well o fyw."
Wedi dechrau'r cyfarfod rhwng y cyngor a TFSR Cymru i ystyried sut y gellid casglu offer llaw i'w hailddefnyddio, dywedodd yr, Cyng. Liz Rijnenberg a'r Cyng. Marie Matthews: "Mae'n rhoi pleser mawr i ni fod y fenter hon a yrrir gan y gymuned wedi cael ei sefydlu ac rydym yn gobeithio y bydd mwy o brosiectau tebyg i hyn, yn fawr ac yn fach, yn gallu cael eu datblygu."
Ychwanegodd Debbie Potter o Grŵp Potter: "Mae mentrau ailgylchu a rheolaeth gynaliadwy dros wastraff wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac rydym yn wirioneddol hapus ein bod yn gallu cefnogi cynllun ailddefnyddio TFSR Cymru yn Aberhonddu a chyfrannu tuag at yr elusen werth chweil hon yn lleol trwy helpu i roi defnydd newydd i offer nad oes mo'u heisiau bellach.
Ian Jones yw cyd-gadeirydd TFSR a leolir ym Mhowys: "Mae'n rhoi pleser mawr i TFSR Cymru weithio gyda Chyngor Powys, Grŵp Potter a grwpiau cymunedol lleol gyda'r fenter hon. Gyda'u help hwy, gallwn adnewyddu a rhoi bywyd newydd i hen offer a pheiriannau gwnïo, a gwella bywoliaeth teuluoedd gwledig Tanzania."
Ffotograff: Gwirfoddolwr TFSR Cymru, Frank Olding, yn adnewyddu ychydig o offer ail-law.