Cyfarfodydd grŵp hunaneiriolaeth newydd yng ngogledd Powys

4 Mawrth 2020

Mae'r rhain yn agored i unrhyw un dros 18 mlwydd oed:
- Sydd ag anabledd dysgu
- Sydd ag anabledd corfforol
- Sydd â nam ar y synhwyrau
- Sy'n agored i niwed oherwydd eu hoedran
- Sy'n ofalwr di-dal
- Neu sydd ag angen wedi'i asesu (gan gynnwys awtistiaeth, ADHD, dementia neu niwed i'r ymennydd)
Mae hunaneiriolaeth yn golygu siarad dros eich hunan a rhoi gwybod i eraill sut rydych chi'n teimlo. Gall olygu gwybod eich hawliau a chael gwrandawiad hefyd.
Dyddiadau'r cyfarfodydd Zoom ar-lein yw:
- Y Drenewydd, ail ddydd Mercher o bob mis, 4.30-6pm
- Y Trallwng, dydd Iau cyntaf o bob mis, 5.30-7pm
- Machynlleth, y pedwerydd dydd Gwener o bob mis, 4-5.30pm
- Caersws, y trydydd dydd Mercher o bob mis, 6.15-7.30pm
Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad at ddolenni, hunaniaethau a chodau pasio Zoom, edrychwch ar wefan Dewis: https://www.dewiscil.org.uk/advocacy-groups
I gael help i ymuno â chyfarfod neu unrhyw wybodaeth ychwanegol, ffoniwch Nicola yn Dewis ar 01443 827930, estyniad 31, neu anfonwch e-bost at: nicola.benney@dewiscil.org.uk
Ariannwyd y gwasanaeth hwn gan Gyngor Sir Powys.